Mewn Gwyddbwyll mae tacteg yn cyfeirio fel arfer at gyfres o symudiadau sy'n rhoi mantais i un chwaraewr dros y llall. Mae tactegau gwyddbwyll yn wahanol i strategaeth wyddbwyll, ble mae chwaraewyr yn chwilio am fantais tymor hir mewn gêm.
Mae fforch yn symudiad sy'n defnyddio darn i ymosod ar ddau o ddarnau'r gwrthwynebydd ar yr un pryd yn o gobaith o fedru cymryd un ohonyn nhw ac ennill mantais. Mae'r Marchog yn aml yn cael ei ddefnyddio i greu fforch drwy neidio i sgwâr ble fydd yn ymosod ar ddau o ddarnau'r gwrthwynebydd. Sefyllfa gyffredin yw ble mae'r Marchog yn neidio i c7, gan ymosod ar y Castell ar a8 a'r Brenin ar e8. Mae fforch brenin fel hwn yn arbennig o effeithiol gan bod rhaid i'r gwrthwynebydd symud ei Frenin allan o Siach. Mae Gwerinwr hefyd yn gallu creu fforch ar ddarnau'r gwrthwynebydd drwy ymosod ar ddau ddarn yn lletraws. Sefyllfa gyffredin yw symud y Gwerinwr d2-d4 i greu fforch ar Esgob a Marchog ar c5 ac e5.
Mae pin yn symudiad sy'n gorfodi un o ddarnau'r gwrthwynebydd i aros ble mae oherwydd byddai ei symud yn arwain at golli darn pwysicach y tu ôl iddo. Gan eu bod yn medru symud ar hyd llinellau syth gall Esgob, Castell a Brenhines greu pin.
Yn y llun ar y chwith all du ddim symud ei Farchog heb golli ei Frenhines, a does dim modd iddo symud ei Gastell o gwbwl gan fod y Brenin y tu ôl iddo. Yn y llun ar y dde mae gwyn yn pinio Esgob du, ac yn ei ennill yn fuan drwy symud ei Werinwr a4-a5.
Mae sgiwer yn sefyllfa ble mae darn yn ymosod ar ddau o ddarnau'r gwrthwynebydd ar hyd yr un llinell, yn debyg i'r pin, ond bod y darn mwyaf gwerthfawr o flaen yr un llai gwerthfawr. Wedi iddo symud y darn mwyaf gwerthfawr mae modd cymryd yr un llai gwerthfawr. Mae Brenhines, Castell ac Esgob yn medru creu Sgiwer. Mae'n rhaid bod yn ofalus iawn wrth osod Brenhines a Brenin ar yr un llinell rhag i ti golli'r Frehines mewn Pin neu Sgiwer. Yn y llun cyntaf mae gwyn yn cipio Castell du gyda'i Frenhines drwy osod Sgiwer ar ei Frenin. Yn yr ail lun mae du yn gorfod symud ei Frenhines ac felly'n colli ei Gastell.