Taglys arfor

Calystegia soldanella
Delwedd o'r rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Plantae
Ddim wedi'i restru: Angiosbermau
Ddim wedi'i restru: Ewdicotau
Ddim wedi'i restru: Asteridau
Urdd: Solanales
Teulu: Convolvulaceae
Genws: Calystegia
Rhywogaeth: C. silvatica
Enw deuenwol
Calystegia soldanella
Pál Kitaibel

Planhigyn blodeuol siap twmffat yw Taglys arfor sy'n enw gwrywaidd. Mae'n perthyn i'r teulu Convolvulaceae. Yr enw gwyddonol (Lladin) yw Calystegia soldanella a'r enw Saesneg yw Sea bindweed.[1] Ceir enwau Cymraeg eraill ar y planhigyn hwn gan gynnwys Taglys Arfor, Carn yr Ebol y Môr, Cynghafog Arfor, Cynghafog y Môr, Ebolgarn y Môr, Ebolgarn y Tywod.

Mae gan y blodyn bump sepal, pump petal a pump brigeryn.

Perthynas â phobl

[golygu | golygu cod]

Y tu ôl i draeth Coilleag a' Phrionnsa (traeth y tywysog), Eriskay, Ynysoedd Heledd yr Alban mae carnedd a godwyd gan blant yr ysgol leol i gofio am ddigwyddiad sydd o bwys hanesyddol llawer mwy, sef glanio'r Tywysog Charles Edward Stuart yng Ngorffennaf 1745 yno ar achlysur ei gais ofer i hawlio'r goron. Honnir bod y taglys arfor yno (sydd yn cyrraedd ei leoliad mwyaf diarffordd a gogledd-gorllewinol ym Mhrydain [Ewrop?] ar yr ynys) yn deillio o hadau a ddisgynnodd o boced y tywysog ar y pryd.[2]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gerddi Kew; adalwyd 21 Ionawr 2015
  2. Christine Smith, Guardian Country Diary 15 Gorff 2011 ym Mwletin Llên Natur rhifyn 43 [1]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: