Enw ar gasgliad o dair dogfen yw Tair Ffurf Undod, sef y Gyffes Felgig, Canonau Dort a Chatecism Heidelberg, sydd yn adlewyrchu credoau athrawiaethol Calfiniaeth gyfandirol ac a dderbynnir yn ddogfennau swyddogol gan lawer o eglwysi Calfinaidd.
Rhwng 1618 a 1619, galwodd a chynhaliodd llywodraeth yr Iseldiroedd Synod Dort ar ran Eglwys Ddiwygiedig yr Iseldiroedd. Cyfarfu cynrychiolwyr o'r Iseldiroedd, ynghyd â 27 o gynrychiolwyr Calfinaidd o wyth gwlad arall, yn y synod hwn, lle y crynhowyd eu barn gyfunol mewn dogfen o'r enw Canonau Dort.[1]
Ychwanegodd yr un synod y Canonau hyn at ddwy ddogfen arall yr arferai Eglwys yr Iseldiroedd eu defnyddio ar y pryd, sef Catecism Heidelberg (1563) a'r Gyffes Felgig (1561).[2]
Trwy wneud hyn, cesiai'r Synod:
Ffurfioli eu dealltwriaeth o athrawiaeth Feiblaidd ar y Drindod, yr ymgnawdoliad, rhagordeiniad, cyfiawnhad a'r eglwys;
Caniatáu i aelodau ymgynnull yn gytûn dros gredoau sylfaenol;
Israddio rhai syniadau anhanfodol, megis safbwyntiau gwleidyddol, addysg ac yn y blaen, er mwyn atal eglwysi rhag ymhollti yn ddiangen. Mae'r Ffurfiau hefyd yn rhoi sail i ymdrechion eciwmenaidd sy'n ddibynnol ar eglwysi yn derbyn yr hanfodion sydd ynddynt.
Mae diben gwahanol i bob dogfen.
Ysgrifennwyd y Catecism ar ffurf cwestiwn ac ateb i help egluro athrawiaethau Beiblaidd i blant a newydd-ddyfodiaid i'r ffydd.
Mae'r Gyffes yn eglurhau gwahanol athrawiaethau Beiblaidd.
Cyfres o ymatebion technegol i ddadleuon diwinyddol penodol a godwyd gan yr Haerwyr Iseldiraidd yw'r Canonau.