Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2167°N 3.8167°W ![]() |
Cod OS | SH787716 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Robin Millar (Ceidwadwyr) |
![]() | |
Pentref bychan yng nghymuned Eglwys-bach, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Tal-y-cafn[1][2] (hefyd Tal-y-Cafn). Saif ger y briffordd A470, lle mae pont yn croesi Afon Conwy i gysylltu â'r ffordd B5106 ger Tyn-y-groes ar lan orllewinol yr afon. Mae ychydig i'r de o bentref Llansanffraid Glan Conwy.
Dim ond dyrnaid o dai a geir yn y pentref ond ceir gorsaf ar Reilffordd Dyffryn Conwy gerllaw Bryn Castell, sef hen domen amddiffynnol o'r Oesoedd Canol.
Ceir Gardd Bodnant tua milltir i'r dwyrain.
Cyn codi’r bont dros yr afon yng Nghonwy roedd Fferi neu ysgraff Talycafn yn fodd bwysig o groesi i berfeddwlad Eryri. Ar un cyfnod cymerodd yr Iarll Londsdale, enw adnabyddus ym myd bocsio, ofal o’r fferi a digwyddodd ddamwain ddifrifol i un o’i weision pan yn croesi. Roedd rhaff wedi ei gosod ar draws yr afon er mwyn cario ‘windlass’ windlass ar yr ysgraff. Daeth cwch mawr o gyfeiriad Conwy, cyffwrdd â’r rhaff a dragio’r cychwr i’r dŵr ac fe’i lladdwyd. Derbyniodd gweddw’r cychwr gini o iawndal gan yr Iarll a thraddododd Ficer Conwy bregeth i goffau amdano.[3]
Mae Stan Wicklen yn cyfeirio at windlass, sef, yn ôl yr OED:
A dyma esbonio efallai y cofnod canlynol gan Y Parch. Hugh Davies (awdur Welsh Botanology) yn nodi mewn llythyr i’w gyfaill Thomas Pennant am y trafferthion a gafodd ar y 3 Rhagfyr 1794 wrth ddychwelyd o Sir y Fflint i’w gartref yn Abergwyngregyn ar noson stormus:
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan