Math | Tarten, meat pastry, saig o wyau, savoury pie |
---|---|
Deunydd | wy, shortcrust pastry |
Gwlad | Ffrainc |
Yn cynnwys | migaine, shortcrust pastry |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Math o darten agored yn cynnwys crystyn toes wedi'i lenwi a wyau, llaeth neu hufen, a chaws, cig, bwyd mor neu lysiau, yw tarten sawrus (hefyd, yn Ffrangeg a Saesneg: quiche). Gall gael ei weini yn boeth neu oer. Mae'n ddull Ffrengig o goginio, er ei fod hefyd yn boblogaidd mewn gwledydd eraill.
Defnyddiwyd y gair "quiche" gyntaf yn Ffrangeg yn 1805, ac yn nhafodiaith Lorrain yn 1605. Gall fod yn perthyn i'r gair Almaeneg Kuchen, sy'n golygu "cacen" neu "tarten".[1][2]