![]() | |
Math | dinas â phorthladd, teyrnas, diwylliant, pobl, gwareiddiad, diwylliant archeolegol, dinas hynafol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Penrhyn Iberia ![]() |
Gwlad | Sbaen ![]() |
Gerllaw | Afon Guadalquivir ![]() |
Cyfesurynnau | 37°N 6.2°W ![]() |
![]() | |
Hyd at yr 20g, credai haneswyr mai gwareiddiad, diwylliant a dinas yr Henfyd oedd Tartessos (Groeg: Τάρτησσος), a leolwyd ar benrhyn Iberia. Ers yr 20g, fodd bynnag, profwyd mai ardal gyfoethog iawn o gwmpas Huelva, Sbaen ydyw, gyda phorthladd mewn lleoliad masnachol hynod bwysig. Yma, canfyddwyd oddeutu cant o feddfaeni, neu gerrig bedd ac arnynt ysgrif yr iaith Geltaidd.
Fe'i disgrifiwyd yn gyntaf gan y Groegiaid (gan gynnwys Herodotus) ac roedd yr ardal yn nodedig am ei mwynau, arian a tun. Yn ôl Hesychius lleolwyd "dinas Tartessos ger 'Colofnau Hercwles' (Culfor Gibraltar) a bod yno ffuredau ac anifeiliaid mytholegol milain iawn". Credwyd, tan yn ddiweddar, fod y ddinas, ers rhai canrifoedd, o dan y môr.
Yn 2009, cyflwynodd yr Athro John Koch, o'r Bwrdd Gwybodau Celtaidd yn Aberystwyth, ddamcaniaeth newydd a chwyldroadol iawn fod bron i gant o gerrig beddau yn ardal Tartessos, de Sbaen wedi'u hysgrifennu yn yr iaith Geltaidd, ac yn dyddio i gychwyn Oes yr Haearn. Fe'i cyhoeddwyd yn wreiddiol fel papur, ac yna fel llyfr.[1] Dywed ymhellach, fod y Tarteseg yn perthyn i deulu'r Ieithoedd Indo-Ewropeaidd, ac yn benodol, yn iaith Geltaidd, gynnar.[2] Er bod anghytundeb ynglŷn â hyn, mae'r dystiolaeth yn cynyddu.
Dyma'r ysgrifen (dwy fil a hanner o flynyddoedd oed) ar un o'r cerrig hyn:[3]
Yn ôl Koch, dyma gyfieithiad o'r sgript (Ffenicaidd):