Dr. Morgan mewn crys Cymru (c 1895) | |||
Enw llawn | Edward T. Morgan | ||
---|---|---|---|
Dyddiad geni | 22 Mai 1880 | ||
Man geni | Aberdâr | ||
Dyddiad marw | 1 Medi 1949 | (69 oed)||
Lle marw | North Walsham, Lloegr[1] | ||
Taldra | 171 cm (5 ft 7 in) | ||
Pwysau | 70 kg (11 st 0 lb) | ||
Ysgol U. | Coleg yr Iesu, Aberhonddu[2] | ||
Prifysgol | Ysbyty Guy's | ||
Perthnasau nodedig | William Llewellyn Morgan, brawd Guy Morgan, nai | ||
Gwaith | meddyg | ||
Gyrfa rygbi'r undeb | |||
Gyrfa'n chwarae | |||
Safle | Asgellwr | ||
Clybiau amatur | |||
Blynyddoedd | Clwb / timau | ||
1901-03 ? 1900-? ? 1906 |
Casnewydd Ysbyty Guy's Cymry Llundain Abertawe Sir Forgannwg | ||
Timau cenedlaethol | |||
Blynydd. | Clybiau | Capiau | |
1902–1908 1904 |
Cymru Prydain Fawr |
16 4 |
(42) (3) |
Roedd Edward "Teddy" Morgan (22 Mai 1880 – 1 Medi 1949)[3] yn chwarae rygbi'r undeb dros Gymru. Roedd yn aelod o'r tim a drechodd y Crysau Duon yn 1905 ac mae'n cael ei gofio am sgorio'r cais i ennill y gem. Chwaraeodd rygbi i glybiau Cymry Llundain ac Abertawe.
Daeth Morgan yn feddyg yn Sgeti, Abertawe, cyn symud i feddyga newydd yn East Anglia. Tra oedd yn Sgeti ar ddechrau'r 1920au, ymunodd chwaraewr rygbi rhyngwladol arall ag ef yn y feddygfa, D. Bertram, a enillodd gyfanswm o 11 cap i'r Alban.[4] Bu farw Morgan ar 1 Medi 1949 yng Ngogledd Walsham. Yn 2008, cafodd Morgan ei goffau gan y cyngor lleol pan benderfynwyd gosod llechen las ar ei fan geni.[5]
Symudodd Morgan o Gasnewydd i Lundain yn 1902 i lenwi swydd yn Ysbyty Guy's, a dechreuodd chwarae rygbi i Gymry Llundain. Yn y cyfnod hwnnw y cafodd ei alw i chwarae dros Gymru am y tro cyntaf, a hynny yn erbyn Lloegr. Sgoriodd 14 o geisiau dros Gymru, gan gynnwys y gais i ennll y gem yn erbyn y Crysau Duon yn 1905. Yn y gem fawr rhwng dim Crysau Duon nad oedd wedi eu curo o'r blaen a thim Cymru a oedd wedi ennill y Goron Driphlyg, mae'n debyg bod Morgan wedi ysgogi ei dim i ganu anthem genedlaethol Cymru mewn ymateb i'r haka.[2] Dyma'r tro cyntaf i anthem genedlaethol gael ei chanu mewn digwyddiad chwaraeon.[6] Mewn gem ffyrnig o gystadleuol, un sgor oedd yn gwahanu'r ddau dim. Yn y pumed munud ar hugain, pasiodd y mewnwr Dicky Owen y bell i Cliff Pritchard, a dderbyniodd y bel wrth ei bigyrnau cyn gwibio ymlaen. Wedi iddo fynd heibio i Bob Dean, pasiodd Pritchard y bel i Rhys Gabe ac yntau wedyn i Morgan. Ffugiodd Morgan bas i dwyllo George Gillet a gosod y bel yn y gornel.[7]
Yn ogystal â sgorio'r cais i ennill y gem yn erbyn y Crysau Duon yn 1905, bu Morgan yn rhan o ddigwyddiad dadleuol yn ystod y gem. Yn ystod y gem, plymiodd Bob Deans am linell gais y Cymry a chafodd ei daclo gan Cliff Pritchard a Rhys Gabe. Penderfynodd y dyfarnwr nad oedd Deans wedi cyrraedd y llinell, a gwrthodwyd y cais. Dywedodd Morgan yn ddiweddarach bod y bel wedi ei thirio ac y dylai'r cais fod wedi ei rhoi i'r Crysau Duon.[8][9]
Cymru[10]
In 1904 Morgan was one of the Welsh players chosen to tour Australasia[11] under the captaincy of Bedell-Sivright. Morgan would captain the British team against both Australia and New Zealand during this tour.[8]