Pyrrharctia isabella | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Heb ei werthuso (IUCN 3.1)
| |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Arctiidae |
Genws: | Pyrrharctia |
Rhywogaeth: | P. isabella |
Enw deuenwol | |
Pyrrharctia isabella (JE Smith, 1797) |
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw teigr llwydfelyn, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy teigrod llwydfelyn; yr enw Saesneg yw Isabelline Tiger, a'r enw gwyddonol yw Pyrrharctia isabella.[1][2] Yr enw Saesneg am y lindys ydy Banded Woolly Bear. Oherwydd yr holl flewiach ar y siani flewog, gall fyw mewn gwledydd oer, gan gynnwys yr Arctic.
Mae'n gaeafgysgu fel lindys ac fel arfer mae'r dorff bychan wedi'i rewi'n gorn. Pan ddaw'r gwanwyn mae'n meirioli ac yn mynd ati fel lladd nadroedd i greu sach grisial, a throi'n chwiler.
Gall fwyta amrywiaeth dda o blanhigion ond ei brif fwyd ydy perlysiau.[3]
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r teigr llwydfelyn yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.