Epicallia villica | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Arctiidae |
Genws: | Epicallia |
Rhywogaeth: | E. villica |
Enw deuenwol | |
Epicallia villica (Linnaeus, 1758) | |
Cyfystyron | |
|
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw teigr ôladain felen, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy teigrod ôladain felen; yr enw Saesneg yw Cream-spot Tiger, a'r enw gwyddonol yw Arctia villica.[1] Mae i'w ganfod yn Ewrop, Asia a Gogledd Affrica.
45–60 mm ydy lled adenydd agored yr oedolyn.[2] Mae'n hedfan rhwng Mawrth a Gorffennaf, yn ddibynol ar leoliad. Mae'r fenyw yn hedfan yn ystod y dydd.
Prif fwyd y siani flewog ydy dant y llew (Taraxacum), Plantago, danadl poethion (Lamium), Achillea, mwyar duon (Rubus), Centaurea a mefus (Fragaria).[3]
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae'r teigr ôladain felen yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.