Teisen sbwnj ysgafn yw teisen Battenberg sy'n boblogaidd ym Mhrydain. Mae ganddi haen o farsipán ac mae ei chroestoriad yn dangos patrwm sgwarog yn debyg i fwrdd gwyddbwyll o ddau sgwâr pinc a dau sgwâr melyn. Defnyddir jam i gysylltu rhannau'r deisen.
Mae ryseitiau Seisnig am "deisen ffenestr eglwys" yn dyddio yn ôl i ddechrau'r 19g.[1] Yn draddodiadol dywedir i'r deisen fodern gael ei chreu gan gogyddion y teulu brenhinol Prydeinig i ddathlu priodas y Dywysoges Viktoria o Hessen-Darmstadt a'r Tywysog Louis o Battenberg ym 1884.[2]