Teisen Fadeira

Teisen Fadeira ceirios gyda hufen chwip a the.

Teisen sbwnj yw teisen Fadeira sydd yn fwyd traddodiadol yng nghoginiaeth Seisnig. Mae ganddi ansawdd gadarn ond ysgafn ac yn draddodiadol fe'i blasir â lemwn. Bwyteir yn aml am de'r prynhawn,[1] neu weithiau am frecwast.[2] Mae'n debyg i deisen felen neu deisen driphwys syml.

Dyddia hanes y deisen Fadeira yn ôl i rysáit wreiddiol yn y 18fed neu 19g,[3][4] yn bosib o Fryste.[1] Mae nifer o bobl yn tybio y daw'r deisen o Ynysoedd Madeira, ond yn wir cafodd ei henwi am win Madeira, oedd yn boblogaidd yn Lloegr ar y pryd[3][5] ac oedd yn mynd gyda'r deisen yn y rysáit wreiddiol.[3] Y dyddiau hyn arlwyir y deisen â the neu wirodydd.[4]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Duff, Julie. Cakes: Regional and Traditional (Llundain, Grub Street, 2009), t. 88.
  2. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-07-08. Cyrchwyd 2011-05-06.
  3. 3.0 3.1 3.2 The Pastry Chef's Companion: A Comprehensive Resource Guide for the Baking and Pastry Professional gan Laura Halpin Rinsky, John Wiley and Sons, 2008, ISBN 0470009551, 9780470009550, tudalen 170
  4. 4.0 4.1 "History Of Cake Article @ Mediadrome.com". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-06-29. Cyrchwyd 2011-05-06.
  5. The essential baking cookbook, Murdoch Books Pty Limited, Murdoch Books, 2005,ISBN 1740455428, 9781740455428, tudalen 59