Pei fechan sy'n cynnwys briwfwyd melys yw teisen friwdda,[1][2] cacen friwdda,[1][2] tarten Nadolig,[1] pastai Nadolig,[1] mins-pei,[1][2] neu mins-peien.[1] Fe'u bwyteir yng Ngwledydd Prydain adeg y Nadolig. Mae'r cymysgedd modern mewn teisenni briwdda yn cynnwys, gan amlaf, ffrwyth sych, cnau mân ac afalau wedi malu, siwed, sbeisys, a sudd lemwn, finegr neu frandi.[3] Daw "mins-pei" o'r enw Saesneg mince pie,[2] sy'n cyfeirio at yr enw Saesneg am friwfwyd melys, mincemeat. Er ei fod yn cynnwys y gair meat, yn anaml iawn mae'r cymysgedd yn cynnwys cig heddiw.[3]
Y math cynharaf o'r deisen friwdda yn yr Oesoedd Canol oedd crwst bach a elwir yn chewette. Roedd yn cynnwys cig neu afu wedi malu, neu bysgod ar ddyddiau ympryd, a wedi ei gymysgu ag ŵy wedi ei ferwi'n galed a sinsir. Cafodd y crwst ei bobi neu ei ffrio. Daeth yn boblogaidd i ychwanegu ffrwyth sych a chynhwysion melys eraill.[3]
Erbyn yr 16g roedd y minced pie neu'r shed pie yn ddanteithfwyd Nadoligaidd. Dechreuodd defnyddio gwêr eidion yn lle cig eidion yng nghanol yr 17g, ac erbyn diwedd y 19g diflanodd cig o ryseitiau briwfwyd melys yng Ngwledydd Prydain ac yng Ngogledd America.[3]
Weithiau ceir teisenni friwdda yng Ngogledd America, ac yma mae wedi troi'n bei fawr ar gyfer nifer o bobl.[3] Mae rhai ryseitiau Americanaidd yn parhau i gynnwys cig.[4]