Terry Higgins

Terry Higgins
Ganwyd10 Mehefin 1945 Edit this on Wikidata
Hwlffordd Edit this on Wikidata
Bu farw4 Gorffennaf 1982 Edit this on Wikidata
o pneumocystis pneumonia, progressive multifocal leukoencephalopathy Edit this on Wikidata
Ysbyty Sant Tomos Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru

Roedd Terrence Higgins (10 Mehefin 19454 Gorffennaf 1982) ymhlith y bobl gyntaf y gwyddys eu bod wedi marw o salwch cysylltiedig ag AIDS yn y Deyrnas Unedig.[1]

Ganwyd Terry yn hen wyrcws "Priory Mount", rhan o'r ysbyty leol yn Hwlffordd, Sir Benfro. Marjorie oedd ei fam ond ni gofnodwyd enw ei dad ar ei dystysgrif geni. Wedi gadael ysgol yn y 1960au cynnar, ymunodd a'r Llynges Frenhinol[1]. Yn unig blentyn, ni ddatgelodd ei rywioldeb erioed i'w deulu. Byddai yn ymweld a'i dref enedigol yn achlysurol nes i'w fam farw yn 1974.[2]

Ymgartrefodd yn Llundain a roedd yn gweithio fel gohebydd Hansard yn Nhŷ’r Cyffredin yn ystod y dydd ac fel barman clwb nos a troellwr disgiau gyda’r nos. Teithiodd i Efrog Newydd ac Amsterdam fel DJ yn y 1970au. Cymerwyd Terry yn wael tra'n gweithio yng nglwb nos Heaven a derbyniwyd ef i Ysbyty St Thomas, Llundain lle bu farw o niwmonia a leukoenceffalopathi amlffocal blaengar ar 4 Gorffennaf 1982. Ar y pryd nid oedd y feirws HIV wedi ei ddarganfod.

Etifeddiaeth

[golygu | golygu cod]

Er cof amdano, daeth Martyn Butler[3] a Rupert Whitaker (partner Higgins) a ffrind agos Terry, Tony Calvert at ei gilydd i ffurfio Ymddiriedolaeth Terry Higgins (a ailenwyd yn ddiweddarach yn Ymddiriedolaeth Terrence Higgins)[4]. Cychwynwyd yr ymddiriedolaeth yn 1982 gyda grŵp o ffrindiau Terry ac aelodau eraill o'r gymuned, gan gynnwys Len Robinson a Chris Peel.[5] Roedd yn ymroddedig i atal lledaeniad HIV, hyrwyddo ymwybyddiaeth o AIDS, a darparu gwasanaethau cefnogol i bobl â'r afiechyd.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Terrence Higgins' legacy, 30 years after death". Neil Prior, BBC News Wales, 5 July 2012. Retrieved 23 February 2015.
  2. Terrence Higgins: A name that gave hope to those with HIV and Aids , BBC Wales, 3 Gorffennaf 2022. Cyrchwyd ar 4 Gorffennaf 2022.
  3. Prior, Neil (5 July 2012). "Higgins' legacy, 30 years later".
  4. Howarth, Glennys; Oliver Leaman. (2013). Encyclopedia of Death and Dying. Abingdon: Routledge. t. 5. ISBN 978-1-136-91360-0.
  5. "How it all began | Terrence Higgins Trust". www.tht.org.uk.

Ffynonellau

[golygu | golygu cod]
  • "Terrence Higgins" in Robert Aldrich & Garry Wotherspoon. (Eds.) Who's Who in Contemporary Gay and Lesbian History: From World War II to the Present Day, Volume 2. London: Routledge, 2001, pp. 187–188. ISBN 041522974XISBN 041522974X