Car salŵn cwbwl-drydan yw Tesla Model S gyda'i bum drws liftback, ac a gynhyrchwyd yn gyntaf ym Mehefin 2012 gan Tesla Motors.[11] Sgoriodd y sgor uchaf o 5.0 yn rhestr y National Highway Traffic Safety Administration (NHTSA) o ran diogelwch. Fe'i dilynwyd yn 2015 gan y Tesla Model X, sy'n yrriant 4-olwyn gyda dau fodur trydan. Erbyn 2016 roedd y gyfres yn cynnwys modelau 60 (tua £59,280), 600, 75, 750, 900 a'r P1000 (tua £123,280). Nid oes ganddo injan petroliwm (heibrid), ac erbyn 2017 roedd gan y Model S hefyd ddwy fodur a marchnerth o 789 bhp; gallai deithio 0-62 mewn 2.5 eiliad, ar ei orau - sy'n gynt nag ambell supercar - a 5.5 gan y model 60, y rhataf.
Yn 2012, gyda bateri 85 Kw/awr (kWh) (310 MJ) roedd yn medru teithio am bellter o 265 milltir (426 km), pellach nag unrhyw gar cwbwl-drydan arall ar y pryd.[12][13][14] Roedd yn defnyddio tanwydd ar raddfa o 237.5 watt-awr y kilometr (38 kWh/100 mi neu 24 kWh/100 km) sy'n rhoi 89 milltir y galwyn (cyfwerth petrol (2.64 L/100 km neu 107 mpg-imp).[12][15] Erbyn 2017 gallai deithio 300 milltir heb ei ailwefru.
Daeth Model S yn gar a gipiodd frig y siartiau gwerthiant cyn pen dim, a hynny ym mhob gwlad lle'i gwerthwyd. Bu ar y brig yn Norwy ddwywaith, ym Medi ac eto yn Rhagfyr 2013.[16][17][18] Bu ar frig y ceir a werthwyd yn Denmarc hefyd, yn 2015. Yn 2015 gwerthwyd mwy o'r Tesla Model S nag unrhyw gar trydan arall, drwy'r byd.[19] Erbyn Rhagfyr 2015 roedd y gwerthiant byeang dros 100,000 uned.[20]
Rhwng Haf 2016 a Mawrth 2017, rhoddodd y cylchgrawn gwerthuso ceir Top Gear 9 marc allan o 10 i'r Tesla Model S; prin iawn oedd y ceir a gafodd cymaint o farciau, a dim un yn uwch na hynny. Derbyniodd y Tesla Model X 8 allan o 10.[21] Broliwyd ei gyflymiad, y tu fewn ac ansawdd y reid.
↑"Model S Optionen und Preis" (yn German). Germany: Tesla Motors. Cyrchwyd 2013-08-08. Unknown parameter |trans_title= ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)