Tewdrig | |
---|---|
Tewdrig ar ffenestr liw yn eglwys gadeiriol Llandaf | |
Ganwyd | 6 g Teyrnas Glywysing, Cymru |
Bu farw | Unknown Matharn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn |
Dydd gŵyl | 3 Ionawr |
Plant | Meurig ap Tewdrig |
Perthnasau | Teithfallt ap Nynniaw |
Brenin Gwent a Glywysing yn ne Cymru a sant a ferthyrwyd yn ymladd y Sacsoniaid oedd Tewdrig neu Tewdrig ap Llywarch (Lladin: Theodoricius / Theodoric) (tua 580 - 630).[1]
Yn ôl hanesyn a geir yn Llyfr Llandaf (12g), roedd Tewdrig yn fab i naill ai i Lywarch neu Teithfall o Went, a roddodd lawer o dir i glas Llandaf. Ymddeolodd fel brenin er mwyn mynd yn feudwy yn Nhyndyrn ac fe'i olynwyd gan ei fab, Meurig, tad Athrwys ap Meurig.[2]
Ond pan groesodd y Sacsoniaid Afon Hafren dan arweiniad Ceolwulf tua'r flwyddyn, gan anrheithio nifer o glasau ac eglwysi, daeth Tewdrig allan o'i ymddeoliad i gynorthwyo ei fab ac amddiffyn yr eglwys yn erbyn y "paganiaid" Seisnig. Gorchfygodd Tewdrig a Meurig y Sacsoniaid ym mrydr Pont y Saeson, ger Tyndyrn, ond clwyfwyd Tewdrig yn angeuol. Cafodd ei gludo ar gert ych i'r clas ar Ynys Echni, ym Môr Hafren, ond ar y ffordd arosodd yr ychen wrth ffynnon wyrthiol a enwir yn Ffynnon Tewdrig hyd heddiw. Yno cafodd ei glwyfau eu golchi a bu farw mewn hedd. Yng nghalendr yr Eglwys coffheir ei farw ar 3 Ionawr.[2]
Cododd y brenin Meurig eglwys yn y man a chladdodd ei dad yno a rhoi'r tir o amgylch i Esgobion Llandaf. Galwyd y llecyn yn Merthyr Tewdrig (pentref Matharn ar lan afon Gwy heddiw). Ond mae rhai haneswyr yn meddwl mai ger Caerfaddon yr ymladdwyd y frwydr ac i Dewdrig gael ei gladdu ar ei ffordd adref.[2]
Darganfuwyd esgyrn honedig Sant Tewdrig ger yr allor yn Eglwys Merthyr Tewdrig gan Francis Godwin, Esgob Llandaf 1601-1617. Roedd clwyf mawr yn y benglog.[2]