Teyrnas Valencia

Teyrnas Valencia gyda dyddiadau ymgorffori gwahanol rannau ynddi. Gwyrdd - rhannau o'r gymuned ymreolaethol bresennol a ychwanegwyd wedi cyfnod teyrnas Valencia

Sefydlwyd Teyrnas Valencia (Regne de Valencia) yng ngogledd-ddwyrain Sbaen yn 1237, fel is-deyrnas gan Goron Aragon. Parhaodd hyd 1707. Roedd ei ffiniau yn debyg i ffiniau Cymuned Ymreolaethol Valencia heddiw.

Yn ystod y Reconquista ar Benrhyn Iberia, fe oresgynodd y Cristionogion y taifas (teyrnasoedd) Islamaidd oedd yn ffurfio Al-Andalus. Erbyn 1237 roedd taifa Balansiya (Valencia) wedi ei choncro gan Iago I, brenin Aragon. Tros y blynyddoedd nesaf, ymestynwyd ei ffiniau tua'r de.

Parhaodd y boblogaeth Fwslimaidd flaenorol, y mudejar, yma nes i'w disgynyddion, y Morisgiaid, gael eu gyrru allan yn 1609. Cyrhaeddodd y deyrnas uchafbwynt ei grym yn rhan gyntaf y 15g.

Lleoliad Cymuned Ymreolaethol Valencia