Thalidomid

Thalidomid
Enghraifft o'r canlynolmath o endid cemegol Edit this on Wikidata
Mathcyfansoddyn cemegol Edit this on Wikidata
Màs258.064057 uned Dalton Edit this on Wikidata
Fformiwla gemegolC₁₃h₁₀n₂o₄ edit this on wikidata
Enw WHOThalidomide edit this on wikidata
Clefydau i'w trinDwythell gaslu carsinoma, gwahanglwyf, clefyd graft-versus-host, crydcymalau gwynegol, anorecsia, myeloma cyfansawdd, clefyd letterer–siwe, clefyd behcet, aphthous stomatitis, macroglobulinemia, colitis crohn, amyloidosis, y gwahanglwyf gwahanglwyfus, neurodermatitis, waldenström macroglobulinemia, syndrom myelodysplastig, cutaneous lupus erythematosus, pyoderma gangrenosum, myeloffibrosis, myeloma cyfansawdd edit this on wikidata
BeichiogrwyddCategori beichiogrwydd awstralia x, categori beichiogrwydd unol daleithiau america x edit this on wikidata
Label brodorolThalidomide Edit this on Wikidata
Yn cynnwysnitrogen, ocsigen, carbon Edit this on Wikidata
Enw brodorolThalidomide Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Moddion yw Thalidomid, sy'n dawelydd-hypnotig a myeloma lluosol. Mae'n deratogen cryf mewn cwningod a phrimasiaid gan gynnwys dynolryw, gan achosi namau genedigaeth difrifol os gymerir y cyffur yn ystod beichiogrwydd.

Gwerthwyd Thalidomid mewn amryw o wledydd yn fyd-eang o 1957 hyd 1961 pan dynnwyd o'r farchnad wedi iddo gael ei ganfod i achosi namau genedigaeth. Mae hyn wedi cael ei ddisgrifio fel un o'r "trasiedïau meddygol mwyaf yn yr oes fodern".[1] Ni wyddir yn union faint o bobl a effeithwyd gan y cyffur yn fyd-eang, ond mae'r amcangyfrifiadau rhwng 10,000 a 20,000,[2] gyda tua 400 yn y Deyrnas Unedig.[3]

Ers hynny, mae Thalidomide wedi cael ei ganfod i fod yn driniaeth gwerthfawr ar gyfer nifer o gyflyrau meddygol ac mae unwaith eto yn cael ei ddarnodi mewn nifer o wledydd, er fod defnydd y cyffur yn parhau i fod yn ddadleuol.[4][5] Arweiniodd trasiedi Thalidomide tuag at arbrofi llymach ar gyfer cyffuriau a phlaladdwyr cyn y caent eu trwyddedu.[6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1.  Thalidomide - A Second Chance? - programme summary. BBC. Adalwyd ar 2009-05-01.
  2.  Born Freak. Happy Birthday Thalidomide. Channel 4. Adalwyd ar 2009-05-01.
  3.  £1.9m compensation for Welsh thalidomide survivors. BBC (26 Chwefror 2010).
  4.  Thalidomide:controversial treatment for multiple myeloma. Health news (10 Mawrth 2006). Adalwyd ar 2009-05-01.
  5. Gillian Bowditch. "Can thalidomide ever be trusted?", The Sunday Times, News International Limited, 26 Mawrth 2006.
  6. C. A. Heaton (1994). The Chemical Industry. Springer, tud. 40. ISBN 0751400181
Eginyn erthygl sydd uchod am iechyd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato