![]() Clawr yr argraffiad 1af | |
Enghraifft o'r canlynol | gwaith llenyddol ![]() |
---|---|
Awdur | Arthur Conan Doyle ![]() |
Cyhoeddwr | George Newnes Ltd ![]() |
Gwlad | Lloegr |
Iaith | Saesneg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 14 Hydref 1892 ![]() |
Darlunydd | Sidney Paget |
Genre | ffuglen dditectif ![]() |
Cyfres | nofelau Sherlock Holmes ![]() |
Rhagflaenwyd gan | The Sign of Four ![]() |
Olynwyd gan | The Memoirs of Sherlock Holmes ![]() |
Cymeriadau | Dr. John Watson, Sherlock Holmes ![]() |
Yn cynnwys | A Scandal in Bohemia, The Adventure of the Red-Headed League, A Case of Identity, The Boscombe Valley Mystery, The Five Orange Pips, The Man with the Twisted Lip, The Adventure of the Blue Carbuncle, Y Cylch Brith, The Adventure of the Engineer's Thumb, The Adventure of the Noble Bachelor, The Adventure of the Beryl Coronet, The Adventure of the Copper Beeches ![]() |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus ![]() |
![]() |
Mae The Adventures of Sherlock Holmes yn gasgliad o ddeuddeg stori fer gan Syr Arthur Conan Doyle, a gyhoeddwyd gyntaf ar 14 Hydref 1892.[1]
Mae'r llyfr cynnwys y straeon byrion cynharaf sy'n cynnwys y ditectif ymgynghorol Sherlock Holmes, a gyhoeddwyd mewn deuddeg rhifyn misol o The Strand Magazine rhwng Gorffennaf 1891 a Mehefin 1892. Mae'r straeon yn y casgliad yn cael eu cyhoeddi yn y llyfr yn yr un drefn ag y cyhoeddwyd hwy yn y cylchgrawn. Dydy'r straeon ddim mewn trefn gronoleg o ran dyddiad gosodiad y storïau. Yr unig gymeriadau sy'n gyffredin i bob un o'r deuddeg yw Holmes a Dr Watson ac mae pob un yn cael eu hadrodd yn arddull naratif person cyntaf gan Watson.[2]
Yn gyffredinol, mae'r straeon yn The Adventures of Sherlock Holmes yn nodi, ac yn ceisio cywiro anghyfiawnderau cymdeithasol. Portreadir Holmes fel un sy'n cynnig ymdeimlad newydd, tecach o gyfiawnder.
Darluniodd Sidney Paget bob un o'r deuddeg stori yn The Strand ac yn y casgliad.
Cafodd y straeon dderbyniad da, a rhoddodd hwb i ffigurau tanysgrifiadau The Strand Magazine, gan annog Doyle i allu mynnu mwy o arian ar gyfer ei set nesaf o straeon. Mae'r stori gyntaf, "A Scandal in Bohemia", yn cynnwys cymeriad Irene Adler. Er mae dyma'r unig stori gan Doyle lle mae Adler yn ymddangos daw hi’n gymeriad amlwg mewn addasiadau modern o Sherlock Holmes, yn gyffredinol fel gwrthrych cariad Holmes. Cynhwysodd Doyle pedair o'r deuddeg stori o'r casgliad hwn yn ei ddeuddeg hoff stori Sherlock Holmes, gan ddewis "Y Cylch Brith" fel y gorau oll.[3]