Book of Mormon | |
Poster y sioe gerdd | |
---|---|
Cerddoriaeth | Trey Parker Robert Lopez Matt Stone |
Geiriau | Trey Parker Robert Lopez Matt Stone |
Llyfr | Trey Parker Robert Lopez Matt Stone |
Cynhyrchiad | 2011 Broadway 2012 Taith 1af yr UDA 2012 Chicago 2013 West End |
Gwobrau | Gwobr Tony am y Sioe Gerdd Orau Gwobr Tony am y Llyfr Gorau o Sioe Gerdd Gwobr Tony am y Sgôr Gorau Gwobr Cylch Beirniaid Drama Efrog Newydd am y Sioe Gerdd Orau Gwobr Drama Desk am Sioe Gerdd Eithriadol Gwobr Grammy am yr Albwm Theatr Gerdd Orau |
Sioe gerdd ddychanol am grefydd ydy The Book of Mormon. Ysgrifennwyd y llyfr, y geiriau a'r gerddoriaeth gan Trey Parker, Robert Lopez, a Matt Stone.[1] Cyd-ysgrifennodd Parker a Stone, sy'n fwy enwog am greu'r comedi animeiddiedig South Park, gyda Lopez, a oedd wedi cyd-ysgrifennu a chyd-gyfansoddi'r sioe gerdd Avenue Q. Mae'r sioe yn dychanu crefydd a theatr gerdd traddodiadol, gan adlewyrchu diddordeb oes y cyfansoddwyr gyda Mormoniaeth a sioeau cerdd.[2]
Adrodda The Book of Mormon hanes dau genhadwr Mormonaidd a gaiff eu danfon i bentref anghysbell yng ngogledd Wganda, lle mae arglwydd rhyfel ciaidd yn bygwth y boblogaeth leol. Ceisia'r ddau genhadwr rannu eu Llyfr Mormon, un o'u hysgrythurau, ond cânt drafferth yn argyhoeddi'r trigolion lleol, sy'n poeni mwy am ryfel, newyn, tlodi ac AIDS nag am grefydd.[3]
Ar ôl datblygu'r sioe am bron saith mlynedd, agorodd y sioe ar Broadway ym mis Mawrth 2011. Derbyniodd The Book of Mormon feirniadaethau cadarnhaol a nifer o wobrau sioeau cerdd, yn cynnwys Gwobr Tony am y Sioe Gerdd Orau, a Gwobr Grammy am yr albwm gorau.
|
|
† Nid yw'r gan hon ar albwm y cast.
†† Wedi'i chynnwys fel rhan o "Tomorrow Is a Latter Day" ar albwm y cast.