Yr Hennessys yw un o grwpiau gwerin mwyaf poblogaidd Cymru.
Ym 1966 enillodd Frank Hennessy[1] a Dave Burns (ganwyd David Burns, 4 Tachwedd 1946, yng Nghaerdydd), cystadleuaeth dalent a ysgogodd y ddau i gychwyn canu yn broffesiynol. Ymunodd Paul Powell gyda nhw ar y banjo a'r llais.