Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Gwlad | Cymru |
Label recordio | Atlantic Records |
Dod i'r brig | 2007 |
Dechrau/Sefydlu | 2007 |
Genre | roc amgen |
Gwefan | http://www.thejoyformidable.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Band roc Cymreig a sefydlwyd yn 2007 yw The Joy Formidable. Maen nhw'n dod o'r Wyddgrug yn wreiddiol ond mae aelodau'r band yn byw yn Llundain, bellach. Mae gan y band dri aelod: Ritzy Bryan (llais, gitâr), Rhydian Dafydd (gitâr fas) a Matt Thomas (drymiau). Rhyddhawyd eu sengl gyntaf yn 2008, y mini-albwm A Balloon Called Moaning a'u halbwm llawn cyntaf, The Big Roar, yn 2011.
Lansiodd y band label o'r enw Aruthrol, eu dehongliad nhw o glwb senglau finyl misol, ym mis Mehefin 2014.[1]