Colomen rasio llwyddiannus oedd The King of Rome, enillydd ras 1001 milltir (1,611 km) o Rufain, yr Eidal i Lundain, Lloegr, yn 1913. Roedd yn destun ar gyfer cân a llyfr gan Dave Sudbury, daeth y gân yn enwog pan ei recordwyd gan June Tabor.[1]
Cafodd yr aderyn yn geiliog glas,[2] rhif modrwy NU1907DY168,[3] ei fagu gan Charlie Hudson, o 56 Brook Street, Derby. Dechreuodd Hudson ei yrfa rasio colomennod yn 1904.[1] Roedd yn lywydd a thrysorydd y Derby Town Flying Club ar adeg y ras.[1] Roedd hefyd yn ysgrifennu am rasio colomennod yn y Derby Evening Telegraph.[4] Ar farwolaeth yr aderyn fe gyflwynodd Hudson y corff i Derby Museum and Art Gallery lle mae ei groen tacsidermi wedi ei gadw gyda'r rhif derbyn DBYMU.1946/48. Mae wedi cael ei arddangos ers 2011,[5] ac mae hefyd wedi ei arddangos ar fenthyg mewn lleoliadau eraill gan gynnwys Walsall Museum a Wollaton Hall yn Nottingham.[4]
Roedd the King of Rome a'i berchennog yn destun cân a llyfr gan Dave Sudbury. Mae'n egluro'r hanes, gan amlygu'r peryglon a oedd yn gysylltiedig â rasus yr aderyn:
Ar dydd y ras fe gododd storm
a mil o adar a gollwyd yn y gwynt a'r glaw[5]
Daeth y gân i enwogrwydd pan ganwyd gan June Tabor.[1] Wedi iddi glywed Sudbury yn perfformio'r gân mewn cystadleuaeth ar ddiwedd yr 80'au lle yr oedd hi'n beirniadu (fe ddoth yn bedwerydd[6]), recordiodd Tabor y gân ar gyfer ei albwm yn 1988 Aqaba. Dywedodd Brian McNeill, un arall a gyrhaeddodd y rownd derfynol:
Roedd "The King of Rome" pen a sgwyddau uwchben pob cân arall gafodd ei berfformio ar y noson, dylai wedi ennill.[6]
Mae McNeill, ers hynny, wedi perfformio'r gân, ac mae recordiad byw yn ymddangos ar ei albwm o 2004 gyda Iain MacKintosh, Live and Kicking.[6]
Fe recordiodd y canwr gwerin o America Vance Gilbert y gân ar gyfer ei albwm 1994 Edgewise, ac fe recordiodd y canwr gwerin o Ganada, Garnet Rogers, y gân ar gyfer ei albwm Summer Lightning (2004). Mae'r grŵp Half Man Half Biscuit hefyd wedi recordio fersiwn o'r gân, ond nid yw eisoes wedi ei ryddhau.[7]
Mae geiriau Sudbury wedi eu cyhoeddi fel llyfr 32 tudalen, gyda darluniau gan Hans Saefkow.[8]