Enghraifft o'r canlynol | ffilm |
---|---|
Lliw/iau | du-a-gwyn |
Gwlad | Cymru |
Dyddiad cyhoeddi | 1948 |
Genre | ffilm ddrama |
Lleoliad y gwaith | Cymru |
Cyfarwyddwr | Daniel Birt |
Cynhyrchydd/wyr | Louis H. Jackson |
Cyfansoddwr | Hans May |
Dosbarthydd | Associated British Picture Corporation |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Sinematograffydd | Ernest Palmer, Moray Grant |
Mae The Three Weird Sisters yn ffilm melodrama o 1948 sydd wedi ei leoli yng Nghymru. Daniel Birt oedd cyfarwyddwr y ffilm sy’n serennu Nancy Price, Mary Clare, Mary Merrall, Nova Pilbeam a Raymond Lovell.[1] Mae gan y ffilm ddylanwadau Gothig.[2] Addaswyd y sgrinlun gan Dylan Thomas a Louise Birt o'r nofel The Case of the Weird Sisters gan Charlotte Armstrong.[3] Y ffilm oedd yr ymddangosiad cyntaf fel cyfarwyddwr ffilm nodwedd gan Birt. Roedd hefyd yn nodi ymddangosiad sgrin olaf Nova Pilbeam, a ymddeolodd o actio ar ôl iddo gael ei gwblhau.[4][5]
Mae chwiorydd oedrannus y teulu Morgan-Vaughan, Gertrude, Maude ac Isobel yn byw mewn plasty clawstroffobig sy'n dadfeilio mewn pentref glo o'r enw Cwm Glas. Mae Gertrude yn ddall, mae Maude bron yn fyddar ac mae Isobel yn gripil gan y gwynegon. Mae pwll glo'r teulu, a gyfrannodd ffortiwn iddynt, bron wedi'i weithio allan, ac mae ei dwneli a'i siafftiau yn beryglus o ansefydlog. Pan fydd rhan o'r gweithfeydd tanddaearol yn cwympo, gan ddinistrio rhes o fythynnod lleol a thanseilio sylfeini'r plasty, mae'r chwiorydd yn teimlo'n rhwym dan anrhydedd i ariannu atgyweiriadau, ond nid oes ganddynt y moddion ariannol angenrheidiol i wneud hynny.
Anfonir am hanner brawd iau'r chwiorydd Owen, a adawodd y pentref yn ddyn ifanc i gael addysg ac sydd wedi dod yn ddyn busnes cyfoethog yn Llundain wedi hynny. Mae'r chwiorydd yn gobeithio y bydd yn darparu'r cyllid angenrheidiol ar gyfer yr atgyweiriadau. Mae Owen a'i ysgrifennydd Claire yn cyrraedd o Lundain i dderbyniad oer. Mae'r pentrefwyr yn ei feio ef, fel penteulu gwrywaidd tylwyth Morgan-Vaughan, am y trychineb. Mae Thomas, gŵr "twp" (dyna eiriad y sgript), yn taflu carreg sy'n taro Owen yn ei ben wrth iddo yrru trwy'r pentref. Mae Mabli Hughes, gŵr sosialaidd ei farn, yn lleisio ei ddirmyg tuag at Owen yn agored. Mae'r chwiorydd yn anfodlon o ddarganfod nad yw Owen yn teimlo unrhyw ymdeimlad o gyfrifoldeb tuag atynt hwy na'r gymuned ac nad oes ganddo ddiddordeb mewn cyfrannu unrhyw arian.
Mae Dr David Davies yn argymell bod Owen yn osgoi gyrru am ddiwrnod, felly mae ef a Claire yn aros dros nos. Mae pethau od yn dechrau digwydd sy'n gwneud i Claire amau bod y chwiorydd yn cynllwynio i lofruddio Owen er mwyn etifeddu ei arian. Mae hi'n ceisio rhybuddio trigolion eraill y pentref am ei hamheuon, ond i ddechrau does neb yn ei choilio. Yn raddol, fodd bynnag, mae'r meddyg yn dod i gredu dilysrwydd ofnau Claire ac yn dyfarnu bod yna gynllwyn wedi'i ysgogi gan Maude.
I geisio sicrhau nad oes reswm i'w chwiorydd parhau a'u cynllwyn mae Owen yn newid ei ewyllys gan wneud Claire ei etifedd. Mae'r chwiorydd yn penderfynu ceisio ei lladd hi yn gyntaf fel na fydd modd iddi etifeddu arian Owen os yw hi'n farw o'i flaen. Mae'r tair yn gosod trap bydd yn gwneud i Claire syrthio i farwolaeth o ben y grisiau. Mae Thomas yn achub Claire ond mae Maude yn syrthio i'r trap wrth geisio ei rwystro. Mae cwymp Maude yn gwneud i'r tŷ simsan syrthio i lawr a lladd y ddwy chwaer arall. Gyda chymorth Dr Davies a Thomas mae Owen a Claire yn llwyddo dianc yn fyw.