Llyfr anthropolegol gan Margaret Murray yw The Witch-Cult in Western Europe (1921) (Cymraeg answyddogol: Cwlt y Gwrachod yng Ngorllewin Ewrop). Cyhoeddwyd y llyfr adeg llwyddiant Golden Bough gan James Frazer.[1] Adeg hynny, credai nifer o bobl hyddysg mai Margaret Murray oedd un o'r arbenigwyr yr oes parthed swyngyfaredd a gwrachyddiaeth y gorllewin, er i'w damcaniaethau gael eu hamau yn eang. Dros gyfnod rhwng 1929-1968, Murray ysgrifennodd gofnod "Witchcraft" mewn sawl cyhoeddiad o'r Encyclopædia Britannica.
Ym 1962, ailargraffwyd The Witch-Cult in Western Europe gan Wasg Prifysgol Rhydychen. Mae damcaniaeth Murray, a elwir hefyd yn ddamcaniaeth cwlt y gwrachod, yn awgrymu bod y cyhuddiadau a wnaed tuag at "wrachod" yn Ewrop mewn gwirionedd yn seiliedig ar grefydd baganaidd go iawn, er yn ddirgel, a oedd yn addoli duw corniog.
Yn y llyfr hwn a'r llyfr dilynol, The God of the Witches (1931), cyflwynodd Murray ei damcaniaeth fel a ganlyn.
- Hyd at yr 17eg ganrif, yr oedd yna grefydd a oedd yn llawer hŷn na Christnogaeth, a oedd ag aelodau ledled Gorllewin Ewrop ymhlith y bobl werin a'r dosbarthiadau llywodraethol.
- Yn brif gred i'r ddamcaniaeth oedd addoli duw corniog dauwynebog, a adwaenid gan y Rhufeiniaid yn Ianws neu Dianws. (Disgrifiwyd cwlt Ianws yn fanwl gan James Frazer yn The Golden Bough).
- Yr oedd y duw corniog yn portreadu cylchred y tymhorau a'r cynaeafau. Credir iddo farw ac yn dychwelyd i fywyd yn dragwyddol.
- Ar y ddaear, yr oedd y duw corniog yn cael ei bortreadu gan fodau dynol dethol. Yr oedd rhai enwogion yn eu plith, megis William Rufus, Thomas Becket, Siwan o Arc, a Gilles de Rais. Bu farw pob un ohonynt farwolaeth drasig yn aberthiad defodol i sicrhau atgyfodiad y duw ac adnewyddiad y ddaear.
- Yn y pentrefi, y duw corniog oedd yn arwain cyfarfodydd y gwrachod. Efallai y credai arsylwyr Cristnogol o'r digwyddiadau hyn fod y gwrachod yn addoli'r diafol, pan oeddent mewn gwirionedd yn dathlu Ianws, y duw cyn-Gristnogol.
- Gweithredwyd cadwraeth yr hen grefydd hon i amrywiaeth o bobl frodorol a yrrwyd allan o'u gwlad gyda phob goresgyniad newydd. Byddai hyn hefyd yn esbonio'r storïau am y tylwyth teg, corachod, a 'phobl fach' eraill. Yr oedd y creaduriaid hyn yn swil iawn ond yn gallu trosglwyddo gwybodaeth am eu crefydd i'r werin bobl. Y gwrachod oedd eu disgyblion ac felly etifeddont yr hen grefydd.
- Yn ôl Murray, yr oedd cwfenoedd lleol yn cynnwys tri aelod ar ddeg: deuddeg o ddynion a merched cyffredin, ac un swyddog. Yr oedd yn ofynnol i bob aelod gynnal cyfarfod wythnosol (a enwyd yn 'esbat' gan Murray) a mynychu'r Sabatau (gwyliau) mawrion.
- Yr oedd disgyblaeth lem yn y cwfenoedd, a gallai pwy bynnag a fethodd gyfarfod gael ei gosbi'n llym a'i ddienyddio weithiau.
- Yr oedd y drefn a’r strwythur mor dda fel y bu’n rhaid i Gristnogaeth aros tan y Diwygiad Protestannaidd cyn cymryd sylw eang o’r grefydd gudd. Felly yr oedd yr erlidiau gwrachod mawrion yn ymosodiad Cristnogaeth ar wrthwynebydd pwerus.