Thelonious Monk | |
---|---|
Ganwyd | Thelious Monk Jr. 10 Hydref 1917 Rocky Mount |
Bu farw | 17 Chwefror 1982 Weehawken |
Man preswyl | Rocky Mount, New Jersey |
Label recordio | Blue Note, Prestige, Columbia Records, Riverside, Charly Records, Fontana Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | pianydd, cyfansoddwr, cerddor jazz, artist recordio |
Arddull | jazz, bebop, hard bop, stride piano, cool jazz |
Priod | Nellie Monk |
Plant | T. S. Monk |
Perthnasau | Angelika Beener |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, Pulitzer Prize Special Citations and Awards, Gwobr Neuadd Enwogion y Grammy, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Gwefan | http://www.monkzone.com/ |
Pianydd a chyfansoddwr jazz Americanaidd oedd Thelonious Sphere Monk (10 Hydref 1917 – 17 Chwefror 1982).
Ganwyd yn Rocky Mount, Gogledd Carolina, a symudodd i Manhattan, Dinas Efrog Newydd, yn 4 oed a bu'n byw yno am weddill ei fywyd. Yn y 1930au a'r 1940au canodd biano yn Minton's Playhouse yn Harlem, ac yno cafodd ddylanwad ar gerddorion a ddatblygodd yr arddull bebop.[1]
Ym 1951 treuliodd 60 niwrnod mewn carchar am feddu ar gyffuriau, er y mae'n debyg yr oedd yn ddieuog. O ganlyniad collodd ei Gerdyn Cabaret a chafodd effaith drom ar ei yrfa. Ym 1957, gyda chymorth Pannonica de Koenigswarter, ad-enillodd ei gerdyn gan ei alluogi i berfformio yng nghlwb y Five Spot. Yn y 1960au perfformiodd mewn pedwarawd gyda Charlie Rouse mewn clybiau, cyngherddau a gwyliau cerddorol ar draws y byd. Perfformiodd yn llai aml yn y 1970au oherwydd salwch. Bu farw yn 64 oed ar ôl cael strôc.[1]
Cafodd Monk ddylanwad sylweddol ar jazz modern, yn enwedig ar waith George Russell, Randy Weston, a Cecil Taylor. Ym 1997 canfuwyd 4000 o oriau o recordiadau gan Monk a cherddorion jazz eraill megis Charles Mingus a Sonny Rollins.[2]