Theophilus Evans | |
---|---|
Ganwyd | 21 Chwefror 1693 ![]() Cwm-cou, Llandygwydd ![]() |
Bu farw | 11 Medi 1767 ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Galwedigaeth | hanesydd ![]() |
Hynafiaethydd o Gymru oedd Theophilus Evans (Chwefror 1693 – 11 Medi 1767). Ganwyd yng Nghwm-cou, Ceredigion, ger Castellnewydd Emlyn. Ef oedd awdur y llyfr enwog Drych y Prif Oesoedd. Roedd ei fab-yng-nghyfraith Hugh Jones yn dad i Theophilus Jones, awdur A History of Brecknockshire (1805-1809).
Cafodd ei eni a'i fagu yng Nghwm Cou, ar lan Afon Teifi. Fe'i urddwyd yn offeiriad yn 1718 a gwasanethodd mewn sawl plwyf yn yr hen Sir Frycheiniog am weddill ei oes (ac eithrio 1722-1728 pan fu yn Llandyfriog, Ceredigion). Roedd hyn yn cynnwys cyfnodau fel curad dan Moses Williams (Tefynnog, 1717-1722) ac fel ficer yn Llangamarch lle bu Williams Pantycelyn yn gurad iddo. Bu farw yn 1767.
Yn y gyfrol Drych y Prif Oesoedd (1716 a 1740), mae Theophilus yn rhoi hanes y Brythoniaid a'r Cymry hyd cwymp y tywysogion gan dynnu ar sawl ffynhonnell hynafiaethol, gan gynnwys Sieffre o Fynwy.
Yn 1703, cyhoeddodd y Llydäwr Paul Yves Pezron ei lyfr enwog Antiquité de la nation et de la langue des Celtes, autrement appelée Gaulois. Cafwyd cyfieithiad Saesneg yn 1706 fel Antiquities of Nations a argraffwyd sawl gwaith ar ôl hynny. Dyma un o brif ffynonellau Theophilus Evans, sy'n cyfeirio sawl gwaith at Pezron gydag edmygedd mawr. Yn ôl damcaniaeth Pezron, y Gymraeg oedd iaith Gomer fab Jaffeth ac roedd y Cymry a'r Llydawyr yn ddisgynyddion iddo. Honodd hefyd fod y Groegiaid gynt yn adnabod y "Gomeriaid" fel y Titaniaid.[1] Ar sail gwaith Pezron mae awdur y Drych yn cyhoeddi'n groyw, ar ôl adrodd hanes cymysgu'r ieithoedd ar ôl cwymp Tŵr Babel,