Thomas Assheton Smith

Thomas Assheton Smith
Ganwyd1752 Edit this on Wikidata
Ashley Edit this on Wikidata
Bu farw12 Mai 1828 Edit this on Wikidata
Man preswylTedworth House Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcricedwr, person busnes, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o Senedd 1af y Deyrnas Unedig, Aelod o 2il Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 3edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 4edd Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 5ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 6ed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 7fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 14eg Senedd Prydain Fawr, Aelod o 18fed Senedd Prydain Fawr Edit this on Wikidata
TadThomas Assheton-Smith Edit this on Wikidata
MamMary Edit this on Wikidata
PlantThomas Assheton Smith, Elizabeth Assheton-Smith Edit this on Wikidata
Chwaraeon

Roedd Thomas Assheton Smith (1752 - 12 Mai 1828) yn dirfeddiannwr a fu a rhan bwysig yn natblygiad diwydiant llechi Cymru.

Roedd Smith yn fab i Thomas Assheton o Ashley yn Swydd Gaer yn Lloegr. Ychwanegodd y "Smith" at ei gyfenw pan etifeddodd ystadau Y Faenol a Tedworth oddi wrth ei ewythr, William Smith. Bu'n Uchel Siryf Sir Gaernarfon yn 1783-4 ac yn Aelod Seneddol y sir o 1774 hyd 1780. Yn 1806 perswadiodd y Senedd i basio mesur yn cau tir comin plwyf Llanddeiniolen, gan ychwanegu'n fawr at ei diroedd. Yn 1809 cymerodd reolaeth y chwareli llechi ar ei dir i'w ddwylo ei hun, gan ffurfio cwmni o bedwar, gydag ef ei hun yn Llywydd. Yn ddiweddarach dadgorfforwyd y cwmni a daeth ef yn gyfrifol am y busnes ar ei ben ei hun. Erbyn 1826 roedd Chwarel Dinorwig yn cyflogi 800 o ddynion ac yn cynhyrchu 20,000 tunnell o lechi y flwyddyn. Datblygodd Assheton Smith borthladd yn Y Felinheli dan yr enw Port Dinorwic i allforio'r llechi o'r chwarel.

Priododd Assheton Smith ag Elizabeth, merch Watkin Wynn o'r Foelas. Bu farw yn Tedworth yn 1828, ac etifeddwyd ystad y Faenol gan ei ail fab, yntau hefyd yn Thomas Assheton Smith (1776-1858).

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Y Bywgraffiadur Cymreig hyd 1940 (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1953).