Thomas Bowdler | |
---|---|
Ganwyd | 11 Gorffennaf 1754 Caerfaddon |
Bu farw | 24 Chwefror 1825 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon, Teyrnas Prydain Fawr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | meddyg, chwaraewr gwyddbwyll, llenor, golygydd llenyddol |
Mam | Elizabeth Bowdler |
Priod | Elizabeth Farquharson |
Gwobr/au | Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | Lloegr |
Meddyg a chyhoeddwr rhai o weithiau William Shakespeare oedd Thomas Bowdler, LRCP, FRS (11 Gorffennaf 1754 – 24 Chwefror 1825) ac a fu farw yn Abertawe.
Cyhoeddodd The Family Shakspeare a olygwyd gan ei chwaer Henrietta Maria Bowdler ac a fwriadwyd ar gyfer 'merched a phlant' y 19g. Roedd y fersiwn yma yn llawn o sensoriaeth, a daeth ei enw i olygu hynny, hyd heddiw: to bowdlerise yw un o'r termau am beidio a chyhoeddi rhywbeth amhriodol i blant mewn llenyddiaeth neu ffilm.
Er enghraifft, yn Macbeth, newidiwyd cri Lady Macbeth o ''Out, damned spot!'' i ''Out, crimson spot!"
Roedd yn chwaraewr gwyddbwyll eitha da.