Thomas Love Peacock | |
---|---|
Ganwyd | 18 Hydref 1785 Weymouth |
Bu farw | 23 Ionawr 1866 Shepperton |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | bardd, nofelydd, ysgrifennwr, rhyddieithwr, cyfieithydd |
Adnabyddus am | Nightmare Abbey, Headlong Hall, Crotchet Castle, Maid Marian, The Legend of the Manor Hall |
Arddull | nofel ddychanol |
Plant | Edward Gryffydh Peacock, Mary Meredith |
Llenor o Loegr oedd Thomas Love Peacock (18 Hydref 1785 – 23 Ionawr 1866), a aned yn Weymouth, Dorset, de Lloegr. Roedd yn gyfaill i'r bardd Shelley ond nid oedd yn un o awduron mwyaf adnabyddus ei oes. Dim ond ar ôl ei farwolaeth y dechreuodd beirniaid a darllenwyr werthfawrogi ei waith. Efallai taw un rheswm am hynny yw'r ffaith mai nofelau bwrlesg byrion oedd ei hoff gyfrwng, a hynny mewn cyfnod yn hanes llenyddiaeth Saesneg pan ddisgwylid i unrhyw nofel werth yr enw lenwi tair cyfrol.
Ganwyd Peacok yn Weymouth. Roedd ei dad yn fasnachwr gwydr. Bu farw'r tad pan oedd Peacok yn dair oed ac aeth ef a'i fam i Chertsey, Swydd Surrey i fyw efo'i daid ar ochr ei fam. O wyth mlwydd oed hyd ei fod yn dri ar ddeg bu Peacock mewn ysgol yn Englefield Green, a oedd yn cael ei gadw gan gwr o'r enw Mr Wicks. Yn ôl Peacock Nid oedd yr athro yn llawer o ysgolhaig; ond roedd ganddo'r grefft o ysbrydoli ei ddisgyblion gyda'i gariad at ddysgu."
Cafwyd rhagolwg o ddawn Peacock fel awdur tra yn yr ysgol pan enillodd wobr am draethawd yn y cylchgrawn ieuenctid "The Juvenile Library"
Yn un ar bymtheg oed symudodd Peacock gyda'i fam i Lundain, lle bu am gyfnod yn dilyn galwedigaeth fasnachol. Yn Llundain bu'n gwneud defnydd helaeth o adnoddau llyfrgelloedd y ddinas i wella ar ei addysg. Yn Llundain cyhoeddodd ei ddau lyfr cyntaf, y llyfrau o gerddi The Monks of St. Mark a Palmyra.[1]
Yn 1829, cyhoeddodd Thomas Love Peacock ei nofel fer The Misfortunes of Elphin. Mae hi'n nofel fwrlesg sy'n seiliedig yn fras ar hanes Elffin a Taliesin yn y chwedl Hanes Taliesin ond sy'n cynnwys yn ogystal hanes Cantre'r Gwaelod a sawl cymeriad o hanes traddodiadol Cymru. Mae ffynonellau Peacock yn anhysbys, ond mae'n amlwg ei fod yn gyfarwydd â fersiwn o Hanes Taliesin. Roedd ei nofel hir cyntaf, ''Headlong Hall'' hefyd wedi ei leoli yng Nghymru. Mae'r llyfr yn hanes criw o ddynion yn teithio ar Goets Bost Caergybi i Gapel Curig i ymweld â Headlong Hall, cartref man bonheddwr, Cymreig. Gan watwar tueddiad y Cymry bonheddig i Saesnigeiddio eu hunnain mae'n egluro'r modd cymhleth y llygrwyd yr enw Neuadd y Pistyll gan ei droi i Headlong (rhywbeth i wneud efo'r ffaith bod pistyll yn mynd dros y dibyn gerfydd ei phen).[2] Ymwelodd â Meirionnydd sawl gwaith a phriododd ferch leol, sef Jane Gryffydh neu Griffith yn 1820.
Bu farw yn ei gwsg yn Lower Halliford, Middlesex, ar 23 Ionawr 1866 a chladdwyd ef chwe diwrnod yn ddiweddarach ym mynwent newydd Shepperton.[3]