Thomas Merton

Thomas Merton
Ganwyd31 Ionawr 1915, 15 Ionawr 1915 Edit this on Wikidata
Prades Edit this on Wikidata
Bu farw10 Rhagfyr 1968 Edit this on Wikidata
o trydanladdiad Edit this on Wikidata
Bangkok Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethdiwinydd, bardd, awdur ysgrifau, hunangofiannydd, newyddiadurwr, ymgyrchydd heddwch, offeiriad Catholig, llenor Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • St. Bonaventure University Edit this on Wikidata
TadOwen Merton Edit this on Wikidata

Americanwr o dras gymysg a ddaeth yn gomiwnydd, yna'n Babydd, wedyn yn fynach Trapydd, ac yn olaf yn Fwdhydd Zen oedd Thomas Merton (31 Ionawr 191510 Rhagfyr 1968).

Ganed Thomas Merton yn Ffrainc ar 31 Ionawr 1915, yn nhref Prades (Pyrénées-Orientales). Gŵr o Seland Newydd oedd ei dad ac Americanes o dras Seisnig oedd ei fam.

Mae'n oleuol hyd synedigaeth i siarad â Bwdhydd Zen o Japan a darganfod fod gen ti fwy yn gyffredin gydag ef na chyda dy gydwladwyr dy hun sydd heb lawer iawn o ddiddordeb mewn crefydd, neu sydd ddim ond yn ymddiddori mewn arferion allanol crefydd.[1]

Mewn gwirionedd doedd Thomas Merton byth yn feudwy. Roedd ganddo gyfeillion ar hyd a lled y byd - Bwdhyddion o Fietnam, mynachod Hindŵ, Meistri Zen o Japan, cyfrinwyr Swffi Mwslemaidd, athrawon crefydd a chyfriniaeth o Brifysgol Caersalem, athronwyr Ffrengig, celfyddwyr a beirdd o Ewrop, De America a'r Unol Daleithiau, ysgolheigion Arabaidd, cymdeithasegwyr Mecsicanaidd, ac yn y blaen. Ysgrifennai'r rhain ato yn rheolaidd gan ymddangos wrth ei ddrws ar ôl cerdded miloedd o filltiroedd i'w weld. Er fod profiad a safwbynt gwahanol gan gyfrinwyr Cristnogol, Bwdhyddion Zen, Mwslemiaid Swffi, dedlir y dengys digwyddiadau o'r fath eu bod yn gallu croesi ffiniau archddyfarniadau, trosgynnu dogma diwinyddiaeth, ac ennill y gallu i weld Duw trwy fyw, caru a bod, a chanfod Duw ym mhopeth.

Llyfrau Thomas Merton

[golygu | golygu cod]
Plac er cof am Merton yn Louisville, UDA

Detholiad:

  • The Seven Storey Mountain (1948)
  • Mystics and Zen Masters (1967)
  • Zen and the Birds of Appetite (1968)

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Thomas Merton, Mystics and Zen Masters, t. 209.