Thor Hushovd, 2007 | |
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Thor Hushovd |
Dyddiad geni | 18 Ionawr 1978 |
Taldra | 1.83m |
Pwysau | 81kg |
Manylion timau | |
Disgyblaeth | Ffordd a Thrac |
Rôl | Reidiwr |
Math seiclwr | Sbrintiwr Arbennigwr y Clasuron |
Tîm(au) Proffesiynol | |
2000–2008 2009– | |
Prif gampau | |
Tour de France
Pencampwriaethau Ras Ffordd Norwy (2004) | |
Golygwyd ddiwethaf ar 27 Gorffennaf 2009 |
Seiclwr proffesiynol Norwyaidd ydy Thor Hushovd (ganwyd 18 Ionawr 1978), sy'n reidio dros Cervélo TestTeam. Adnabyddir Hushovd am ei sbrintio a'i dreialon amser. Mae'n gyn-bencampwr treial amser Norwy. Ef oedd y cyntaf o Norwy i wisgo Crys Melyn y Tour de France, ac hyd yn hyn yr unig un o Norwy i wneud hynny.
Ganwyd Hushovd yn Grimstad. Cyn troi'n broffesiynol yn 1998 enillodd bencampwriaeth treial amser y byd o dan 23 a fersiynau o dan 23 rasys clasurol Paris-Roubaix a Paris-Tours.
Hushovd oedd pencampwr treial amser Norwy yn 2004 a 2005, a pencampwr ras ffordd 2004. Yn 2006, enillodd Hushovd saith ras UCI ProTour a dau gymal yn Tour de France 2007. Enillodd y prologue yn Strasbourg a gwisgodd y Crys Melyn ar ôl y diwrnod cyntaf er ei fod â toriadau ar ei fraich. Parhaodd i reidio gyda pwythau yn ei fraich, gan ail-ennill y Crys Melyn ar ôl yr ail gymal pan orffennodd yn drydydd. Gorffennodd Hushovd y Tour yn yr un modd gan ennill y cymal olaf wrth guro Robbie McEwen mewn sbrint. Enillodd gymal 6 yn Vuelta a España 2006, gwisgodd y crys aur am dri diwrnod ac ennill y Dosbarthiad Pwyntiau.
Enillodd yr ail gymal mewn sbrint yn Tour de France 2008.[1]
Arwyddodd Hushovd gytundeb gyda Cervélo TestTeam yn 2009.[2] Cipiodd un o fuddugoliaethau cynnar y tîm gyda cymal 3 Tour of California. Enillodd Crys Gwyrdd y Tour de France am yr ail dro, o flaen Mark Cavendish. Enillodd Hushovd un cymal. Wedi ymryson yng nghymal 14, pan ddiddymwyd Cavendish i gefn y peloton, wedi iddo groesi'r llinell gyntaf dyfarnwyd ei fod wedi amharu ar Hushovd. Derbyniodd Hushovd glod am ei ymdrech yng nghymal 17, pan ymosododd oddi ar flaen y peleton, gan ennill dau sbrint canolraddol yn y broses.[3][4][5][6]