Thích Quảng Ðức | |
---|---|
Ganwyd | Lâm Văn Tức 1897 Hội Khánh |
Bu farw | 11 Mehefin 1963 Dinas Ho Chi Minh |
Dinasyddiaeth | Indo-Tsieina Ffrengig, Fietnam, De Fietnam |
Galwedigaeth | bhikkhu |
Mynach Bwdhaidd o Fietnam oedd Thích Quảng Đức (1897 – 11 Mehefin 1963, ganwyd Lâm Văn Tức) a losgodd ei hunan i farwolaeth ar groesffordd brysur yn Saigon ar 11 Mehefin 1963. Roedd Ðức yn protestio yn erbyn gormes yn erbyn Bwdhyddion gan lywodraeth Babyddol Ngô Đình Diệm, Arlywydd De Fietnam. Dangoswyd lluniau o'i hunanlosgiad ar draws y byd a thynodd sylw at bolisïau llywodraeth Diệm. Enillodd Malcolm Browne Wobr Pulitzer am ei ffotograff enwog o farwolaeth y mynach. Wedi iddo farw, ail-amlosgwyd ei gorff, ond arhosodd ei galon yn ddianaf. Cafodd hyn ei weld yn symbol o drugaredd a chafodd Ðức ei barchu gan Fwdhyddion fel bodhisattva, sef bod goleuedig.
O ganlyniad i hunanlosgiad Ðức fe gynyddodd pwysau rhyngwladol ar Diệm, a datganodd yr arlywydd ddiwygiadau gan obeithio i dawelu'r Bwdhyddion. Cafodd y diwygiadau eu gweithredu'n araf, os o gwbl, ac felly gwaethygodd yr anghydfod rhwng Bwdhyddion a'r llywodraeth. Yn sgîl rhagor o brotestiadau, bu cyrchoedd gan Luoedd Arbennig Byddin Gweriniaeth Fietnam ar bagodâu Bwdhaidd ar draws y wlad, gan gipio calon Ðức a lladd nifer o bobl. Llosgodd nifer o fynachod Bwdhaidd eu hunain i farwolaeth gan ddilyn esiampl Ðức. Yn y bôn, cafodd Diệm ei ddymchwel a'i ladd gan coup filwrol yn Nhachwedd 1963. Gwelir hunanlosgiad Ðức yn drobwynt yr argyfwng Bwdhaidd a arweiniodd at newid mewn llywodraeth De Fietnam.