Gwaddod amrywiol iawn ei natur a dyddodwyd yn uniongyrchol gan rewlif yw til ac, fel rheol, mae’n cynnwys cymysgedd o glastiau (cerigos [pebbles], coblau a chlogfeini) mewn amgaen fân-ronynnog o dywod, silt a chlai. Mae’r term wedi disodli ‘clog-glai’ (boulder-clay), i raddau helaeth, gan fod y term hwnnw yn rhagdybio cyfansoddiad penodol. Amhriodol fyddai disgrifio til tywodlyd fel clog-glai.
Gall gwaddodion a gaiff eu trawsgludo gan rewlif gael eu dyddodi o ganlyniad i: (i) glyniad (lodgement), sy’n digwydd pan fo’r gwydnwch ffrithiannol (frictional resistance) rhwng clast a gaiff ei drawsgludo yng ngwadn rhewlif yn drech na llusgiad yr iâ gorchuddiol, ac o ganlyniad mae’r clast yn peidio symud; (ii) dadmeriad (melt-out), sy’n digwydd pan gaiff gwaddodion eu rhyddhau wrth i iâ ddadmer; (iii) sychdarthiad (sublimation) sy’n digwydd pan gaiff gwaddodion eu rhyddhau wrth i iâ anweddu; a (iv) anffurfiad tanrewlifol (subglacial deformation) sy’n digwydd pan gaiff gwaddodion eu cynnwys mewn haen sy’n anffurfio dan wadn rhewlif.
Yn draddodiadol, mae’r pedair proses wedi arwain at adnabod pump o wahanol fathau o diliau yn seiliedig ar eu macromorffoleg, sef: (i) til glyniad; (ii) til anffurfiad; (iii) til dadmeriad tanrewlifol; (iv) til dadmeriad uwchrewlifol/til llif; a (v) til sychdarthiad. Dyma’r dosbarthiad a fabwysiadwyd gan Benn ac Evans (2010) ac fe geir ganddynt ddisgrifiadau manwl o briodoleddau’r pum math gwahanol. Fodd bynnag, yn ôl Bennett a Glasser (2009) mae’r dosbarthiad hwn wedi cael ei herio yn gymharol ddiweddar o ganlyniad i ddatblygiad dulliau micromorffolegol o ddadansoddi til. Ar sail astudiaethau manwl o dafelli tenau (thin sections) o’r gwahanol fathau o dil dan ficrosgop (caiff sampl o’r til ei thrwytho â resin cyn cael ei dafellu), dadleuir bod eu hadeiledd mewnol yn awgrymu nad yw’r dosbarthiad traddodiadol yn ddilys bellach gan fod y rhan fwyaf ohonynt yn gynnyrch cyfuniad o brosesau, yn enwedig yn yr amgylchedd tanrewlifol. Dau brif fath o dil yn unig a gydnabyddir gan Bennett a Glasser, sef: (i) tiliau tanrewlifol a (ii) tiliau uwchrewlifol.
Gall til tanrewlifol grynhoi o ganlyniad i weithgaredd sawl proses wahanol, gan gynnwys: (i) glyniad uniongyrchol; (ii) dadmeriad tanrewlifol; (iii) dyddodiad mewn ceudodau; a (iv) anffurfiad tanrewlifol. Eto i gyd, dadleuir bod y rhan fwyaf o’r gwaddod tanrewlifol i’w briodoli i gyfuniad o’r prosesau hyn, er mai anffurfiad dan ddylanwad llif iâ yw’r broses bwysicaf, yn ôl pob tebyg.
Caiff til dadmeriad uwchrewlifol ei greu wrth i wyneb rhewlif ddadmer dan ddylanwad pelydriad heulog (solar radiation), gan ryddhau’r gwaddod yng nghorff yr iâ. Weithiau mae’r gwaddod yn deillio o’r llwyth a drawsgludir yn haenau uchaf yr iâ yn unig, ond bryd arall mae’n gymysg â gwaddod o haenau gwaelodol yr iâ, os caiff hwnnw ei godi i’r wyneb ar hyd trwyn y rhewlif. Gan fod y gwaddodion hyn yn ansefydlog iawn ac yn symud ac yn llithro bron yn ddi-baid ar wyneb y rhewlif, pur anaml y maent yn cadw unrhyw nodweddion o’r iâ llawn gwaddod y deilliai’r llwyth ohono.
Nid mater rhwydd yw gwahaniaethu rhwng gwahanol fathau o dil ac er gwaetha’r hyn a ddywedwyd ganddynt ynghylch dilysrwydd y dosbarthiad traddodiadol, mae Bennett, M.R. a Glasser, N.F. o’r farn fod modd gwahaniaethu rhwng til glyniad, til dadmeriad tanrewlifol, til anffurfiad, til dadmeriad uwchrewlifol, til llif, a thil sychdarthiad ar sail y priodoleddau a ganlyn: (i) ffurf y clastiau; (ii) maint y gronynnau; (iii) ffabrig y clastiau (cyfeiriadaeth a goledd [dip]); (iv) dwysedd a chaledwch y gwaddod; (v) litholeg y clastiau; (vi) adeiledd.