Math | neoplasm y brif system nerfol, intracranial tumor |
---|
Achosir tiwmor yr ymennydd gan bresenoldeb celloedd annormal yn yr ymennydd.[1] Ceir ddau brif fath o diwmor: tiwmor maleisus neu ganseraidd a thiwmor diniwed. Gellir rhannu tiwmorau canseraidd yn ddau grŵp sef tiwmorau sylfaenol sy'n dechrau o fewn yr ymennydd, a thiwmorau eilaidd sydd wedi lledaenu o rywle arall, a elwir yn diwmorau metastasis yr ymennydd. Gall pob math o diwmorau'r ymennydd gynhyrchu symptomau ac maent yn amrywio a'n ddibynnol ar y rhan o'r ymennydd ag effeithiwyd. Ymhlith y symptomau posib y mae cur pen, trawiadau, problemau gweld, chwydu ac effeithiau meddyliol.[2][3] Mae cur pennau fel arfer ar eu gwaethaf yn y bore ac yn gwella wedi i rywun chwydu. Gall problemau mwy penodol gynnwys anawsterau wrth gerdded, siarad a synhwyro'n gyffredinol. Wrth i'r clefyd ddatblygu mae dioddefwr yn medru colli ymwybyddiaeth.[2][4]
Nid yw'r hyn sy'n achosi'r rhan fwyaf o diwmorau'r ymennydd yn hysbys. Ymhlith y ffactorau risg anghyffredin y mae niwroffibromatosis etifeddol, amlygiad i glorid finyl, firws Epstein-Barr, ac ymbelydredd ïoneiddio. Nid cheir tystiolaeth glir ynghylch effaith ffonau symudol. Y mathau mwyaf cyffredin o diwmorau cynradd ymysg oedolion yw meningioma (sydd fel arfer yn ddiniwed), ac astrosytomâu fel glioblastomau. Y math mwyaf cyffredin ymysg plant yw medulloblastoma niweidiol. Gwneir diagnosis fel arfer drwy archwiliadau meddygol ynghyd â tomograffeg gyfrifiadurol neu ddelweddu oniaredd magnetig. Caiff diagnosis ei gadarnhau drwy fiopsi. Yn seiliedig ar y canfyddiadau, rhannir y tiwmorau yn ôl gradd difrifoldeb.
Gall triniaethau gynnwys cyfuniad o lawdriniaethau, therapïau ymbelydredd, a chemotherapi. Rhoddir meddyginiaeth gwrthgyffylsiwn weithiau mewn achosion lle mae dioddefwr yn profi trawiadau. Gellir defnyddio Decsamethason a ffwrosemid i leihau'r chwyddo o amgylch tiwmor. Mae rhai tiwmorau'n tyfu'n raddol, ac yn aml mewn achosion felly, rhaid monitro'r tiwmor heb ymyrraeth. Mae triniaethau'n defnyddio system imiwnedd unigolyn yn cael eu hastudio ar hyn o bryd. Gall canlyniadau triniaethau amrywio'n sylweddol ac maent yn ddibynnol ar y math o diwmor a drinnir, ynghyd â natur ei lledaeniad wedi diagnosis. Fel arfer nid yw'r cyflwr Glioblastomas yn arwain at ganlyniadau boddhaol, ar y llaw arall gellir trin meningioma yn llwyddiannus ar y cyfan. Mae oddeutu 33% o ddioddefwyr yn yr Unol Daleithiau yn goroesi dros bum mlynedd wedi diagnosis tiwmor yr ymennydd.[5]
Mae tiwmorau uwchradd neu fetastatig yr ymennydd yn fwy cyffredin na thiwmorau cynradd yr ymennydd, ac y mae oddeutu hanner o achosion metastasis yn deillio o ganser yr ysgyfaint. Mae tiwmorau cynradd yr ymennydd yn effeithio oddeutu 250,000 o bobl yn flynyddol ar lefel rhyngwladol (2% o ganserau yn gyffredinol).[4] Tiwmor yr ymennydd yw'r ail ganser mwyaf cyffredin ymysg plant iau na 15, lewcemia lymffoblastig acíwt yw'r math mwyaf cyffredin.[6]
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)