Enghraifft o'r canlynol | genre mewn ffilm, arddull teledu |
---|---|
Math | ffilm ffuglen ddyfaliadol, tokusatsu |
Enw brodorol | 特撮 |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Genre ffilm a theledu o Japan yw tokusatsu (Japaneg: 特撮とくさつ, "ffilmio arbennig"). Mae tokusatsu yn defnyddio yn helaeth effeithiau arbennig sydd wedi'u seiliedig ar weithredu byw. Mae'n un o'r mathau mwyaf poblogaidd o adloniant yn Japan. Mae cysylltiad agos rhwng tokusatsu a ffuglen wyddonol, ffuglen ryfel, ffuglen arswyd a ffantasi.
Mae is-genres o tokusatsu yn cynnwys ffilmiau sy'n seiliedig ar kaiju (angenfilod enfawr) fel Godzilla a Gamera, archarwyr fel Kamen Rider a Metal Hero, arwyr kyodai (cymeriadau a all dyfu i faint aruthrol) fel Ultraman a Gridman; a mecha (robotiaid anferth) fel Giant Robo a Super Robot Red Baron.