![]() Tom Daley yn 2012 | |
Gwybodaeth bersonol | |
---|---|
Enw llawn | Thomas Robert Daley[1] |
Ganwyd | Plymouth, Dyfnaint | 21 Mai 1994
Taldra | 177 cmetr (5 tr 10 mod)[2] |
Pwysau | 74 kg (11 st 9 lb; 163 lb)[2] |
Camp | |
Gwlad | ![]() ![]() |
Camp | 10 m, 10 m synchro, 3 m |
Clwb | Clwp Plymio Plymouth / Canolfan Perfformiad Uchel Llundain[3] |
Partner | Dustin Lance Black (p. 2017)[4] |
Hyfforddwr/aig | Jane Figueredo |
Plymiwr a phersonoliaeth deledu Seisnig yw Thomas Robert "Tom" Daley (ganwyd 21 Mai 1994)[2]. Mae Daley yn arbenigo yn y gamp bwrdd 10 metr ac roedd yn Bencampwr y Byd ym mhencampwriaethau FINA 2009 yn yr ornest unigol pan oedd yn 15 mlwydd oed. Cychwynnodd blymio yn 7 mlwydd oed ac mae'n aelod o Glwb Plymio Plymouth. Mae wedi gwneud argraff mewn cystadlaethau cenedlaethol a rhyngwladol ers oedd yn 9 oed. Cynrychiolodd Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2008 lle'r oedd y cystadleuwr ieuengaf o wledydd Prydain, y cystadleuwr ieuengaf o unrhyw wlad tu allan i gystadlaethau nofio, a'r ieuengaf i gymryd rhan mewn rownd derfynol.[5] Yn 2009, cyrhaeddodd Daley safle gorau ei yrfa yn rhif un yn Safleoedd Plymio Byd FINA ar gyfer y bwrdd deg metr.[6]
Enillodd ddwy fedal aur i Loegr yng Ngemau'r Gymanwlad 2010, yn y plymio ar y cyd (synchro) 10 metr (gyda Max Brick) a'r gystadleuaeth Unigol Bwrdd 10m,[7] ac enillodd y fedal efydd ar gyfer Prydain Fawr yn y gystadleuaeth unigol yng Ngemau'r Olympaidd 2012.[8] Enillodd Daley a Matty Lee y fedal aur yng nghystadleuaeth plymio cydamserol yng Ngemau Olympaidd 2020 yn Tokyo.[9] Enillodd y fedal arian yng nghystadleuaeth plymio cydamserol yng Ngemau Olympaidd 2024 ym Mharis gyda Noah Williams.
Yn dilyn ei lwyddiant yng Ngemau'r Olympaidd 2012 a haf lle daeth chwaraeon yn boblogaidd iawn yng ngwledydd Prydain, gofynnodd y rhwydwaith deledu ITV i Daley gymeryd rhan mewn sioe realaeth newydd o'r enw Splash! yn dangos enwogion yn dysgu sut i blymio. Cychwynnodd y sioe ar 5 Ionawr 2013 gyda Daley fel mentor i'r cystadleuwyr enwog.[10]
Ganwyd Daley yn Plymouth, Dyfnaint, yn fab i Debbie (née Selvester) a Robert Daley.[11][12] Mae ganddo ddau frawd - William sydd dair blynedd yn iau, a Ben sydd pum mlynedd yn iau.[13] Bu farw eu tad, Robert, o diwmor ar yr ymenydd ar 27 Mai 2001, yn 40 mlwydd oed.[14] Ei arwr plymio cynnar oedd y plymiwr Canadaidd Alexandre Despatie, a enillodd aur yng Ngemau'r Gymanwlad 1998 yn 13 mlwydd oed ,[15] a'r plymiwr Seisnig Leon Taylor, a fyddai'n ei fentora yn ddiweddarach.[16] Gwelwyd Daley gan hyfforddwr, yn cymryd rhan mewn gwersi plymio arferol, a fe'i rhoddwyd mewn sgwad gystadleuol yn Medi 2002. Ei gystadleuaeth gyntaf oedd Pencampwriaethau Cenedlaethol i Ddechreuwyr yn Ebrill 2003 lle enillodd fedal yn y categori bechgyn oed 8/9. Ym mis Medi 2003, cymerodd ran mewn digwyddiad wahoddiadol yn Southampton lle enillodd y gornestau 1 m, 3 m a byrddau, a gwnaeth ei argraff gyntaf ar gynulleidfa ehangach. Enillodd Daley ei grŵp oedran yn y Pencampwriaethau Prydeinig yn y sbringfwrdd 1 m, y sbringfwrdd 3 m, a'r bwrdd yn 2004, 2005, a 2006.[17]
Yn Mehefin 2003, y mis ar ôl ei ddegfed pen-blwydd,[18] enillodd y gystadleuaeth bwrdd yng ngrŵp Iau Cenedlaethol (dan 18), gan ei wneud yr enillydd ieuengaf o'r ornest honno.[17] Yn 2005 cystadlodd Daley fel cystadleuydd gwadd yn yr Australian Elite Junior Nationals a fe'i rhoddwyd yn gyntaf yn y byrddau a'n ail yn y sbringfwrdd 3 m springboard yn yr ornest grŵp oedran 14-15. Cystadlodd hefyd yn y categori 14-16 yn yr Aachen Junior International 2005, gan ddod yn ail yn y byrddau a trydydd yn y sbringfwrdd 3 m. Cyrhaeddodd y safon cymhwyster ar gyfer Gemau'r Gymanwlad 2006, ond ni ddewiswyd ar gyfer tîm Lloegr oherwydd ei oedran.[19] Yn 2006, roedd yn bencampwr Prydeinig dan-18 yn y byrddau a sbringfwrdd 3m, a daeth yn ail yn y bwrdd 10 m ym Mhencampwriaethau Prydeinig hŷn 2007, a gynhaliwyd yn Rhagfyr 2006.[17]
Rhwng oed 11 a 14 mynychodd Daley Coleg Cymunedol Eggbuckland.[20] Yn 13 oed daeth yn gefnogwr o ChildLine, llinell gymorth i blant yn cael ei redeg gan yr NSPCC, ac ar y pryd fe ddatgelwyd ei fod wedi cael ei fwlio 18 mis ynghynt.[21] Yn Ebrill 2009, mewn cyfweliad gyda phrif bapur newydd lleol Plymouth, The Herald honnodd Daley ei fod wedi cael ei fwlio yn rheolaidd yn yr ysgol ers y Gemau Olympaidd,[22] a dywedodd ei dad wrth y BBC ei fod wedi ei dynnu allan o'r ysgol dros dro am fod ymateb yr ysgol wedi bod yn aneffeithiol.[23] Fe ganmolwyd Daley yn y cyfryngau am leisio barn am y broblem.[24][25]
Cynigiwyd ysgoloriaeth lawn i Daley i ysgol breswyl annibynnol Coleg Brighton, ond penderfynodd ei dad yn erbyn hyn oherwydd y pellter o'u cartref, ac aeth i drafodaethau gydag ysgol annibynnol leol Coleg Plymouth, oedd wedi cynnig "ysgoloriaeth sylweddol iawn".[26] Rhai wythnosau yn ddiweddarach, cadarnhawyd fod Daley wedi cofrestru yng Ngholeg Plymouth.[27]
Cymerodd Daley ei gymwysterau TGAU mewn cyfnodau byr i weithio o amgylch ei ymrwymiadau plymio. Perswadiodd y model Kate Moss i eistedd am ail-gread o ddarlun gwreiddiol ohoni gan David Hockney, fel rhan o waith ffotograffiaeth TGAU yn ail-greu gweithiau mawr o gelfyddyd, ar ôl ei chyfarfod wrth dynnu lluniau ar gyfer fersiwn Eidalaidd o Vogue.[28] Cafodd Daley un gradd A ac wyth gradd A* yn eu TGAU.[29]
Yn 2012, cwblhaodd ei astudiaeth dwy flynedd Lefel A[30] mewn mathemateg, Sbaeneg a ffotograffiaeth. Penderfynodd Daley i beidio gymeryd cwrs Bagloriaeth Ryngwladol oherwydd y pwysau oedd yn wynebu wrth baratoi ar gyfer Gemau Olympaidd 2012. Derbyniodd A* yn ei lefel A ffotograffiaeth, ac A yn Sbaeneg a mathemateg.[31]
Ar 2 Rhagfyr 2013, ryddhaodd Daley fideo YouTube yn cyhoeddi ei fod mewn perthynas gyda dyn ers ynghynt yn y flwyddyn, gan ddatgan "Rwy' erioed wedi bod yn hapusach."[32][33] Dywedodd Daley ei fod wedi bod yn benderfyniad anodd i siarad am ei fywyd preifat. Dywedodd: "Doeddwn i erioed wedi cael y teimlad o gariad, fe ddigwyddodd e mor gyflym. Roeddwn i wedi cael fy ysgubo gan y peth i'r graddau fel nad wy'n gallu cael e allan o fy mhen drwy'r amser." [34][35] Ei ddyweddi yw'r sgriptiwr, cyfarwyddwr a chynhyrchydd Americanaidd Dustin Lance Black.[36] Maent yn byw gyda'i gilydd yn Llundain.[37]
Yn 2014, roedd Daley yn rhif 3 ar y rhestr 'World Pride Power'.[38] Mae Daley wedi gwneud datganiadau anghyson ynglŷn â'i rywioldeb. Ar ôl ei ddatganiad fideo ar YouTube, dywedodd ei fod yn ddyn hoyw.[39] Yn ddiweddarach, mewn cyfweliad gyda The Guardian, yng Ngorffennaf 2015 gofynnwyd a oedd yn ddeurywiol, a dywedodd Daley : "I don’t put a particular label on any of it because right now I’m in a relationship with a guy, but I still have sexual feelings towards girls."[40] Pan ofynnwyd iddo am ddod i delerau gydaG atyniad cyfunrywiol a'i berthynas a Black, dywedodd ei fod wedi ei atynnu at ddynion erioed a'i fod "yng nghefn ei feddwl erioed... Doeddwn i erioed wedi cael teimladau o'r math yna at berson. Roeddwn i wedi bod mewn perthynas gyda merched lle'R oedd gen i deimladau rhywiol, ond daeth hyn yn llawer dwys pan wnes i gyfarfod Lance."[41]
Ar 1 Hydref 2015, cyhoeddwyd yn The Times fod Daley a Black wedi dyweddïo. Roedd y cyhoeddiad yn darllen: "The engagement is announced between Tom, son of Robert and Debra Daley of Plymouth, and Lance, son of Jeff Bisch of Philadelphia and Anne Bisch of Lake Providence."[42][43][44]
Yn Awst 2014, roedd Daley yn un o 200 ffigwr cyhoeddus i arwyddo llythyr yn The Guardian yn gwrthwynebu annibyniaeth i'r Alban yn y cyfnod cyn y refferendwm ar y pwnc ym mis Medi.[45]
Mae Daley wedi bod yn weithgar iawn yn y cyfryngau. Mae ei galendrau blynyddol wedi bod yn boblogaidd iawn gyda'r cyhoedd.
Mae Daley yn weithgar iawn ar y cyfryngau cymdeithasol gan ymddangos ar ei sianel YouTube am nifer o flynyddoedd. Yn ogystal â defnyddio ei sianel YouTube i ddod allan am ei berthynas cyfunrywiol gyda Dustin Lance Black, mae wedi ymddangos mewn nifer o fideos pellach gyda Black, a nifer o fideos ar bynciau eraill hefyd. Mae cyfresi poblogaidd yn cynnwys "Tom Dives Into..." yn 2015 a "The Daley Diary" yn 2016.
When Thomas Robert Daley dives...
|deadurl=
ignored (help)
|work=
(help)