Tom Maynard | |
---|---|
Ganwyd | 25 Mawrth 1989 Caerdydd |
Bu farw | 18 Mehefin 2012 o trydanladdiad Wimbledon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cricedwr |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Clwb Criced Morgannwg, Surrey County Cricket Club |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Roedd Thomas Lloyd "Tom" Maynard (25 Mawrth 1989 - 18 Mehefin 2012) yn gricedwr o Gymru ac yn fab i Matthew Maynard (Morgannwg a Lloegr). Roedd yn fatiwr ac yn fowliwr llaw-dde.
Fe'i ganwyd yng Nghaerdydd a bu'n ddisgybl yn Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd[1] a Ysgol Uwchradd Millfield School;[2] erbyn roedd yn 15 oed roedd yn chwarae i dîm Dan-17 Morgannwg. Flwyddyn yn ddiweddarach chwaraeodd i Ail Dîm Morgannwg ac i dîm cenedlaethol "Siroedd Llai" Cymru ("Wales Minor Counties").
Chwaraeodd gyntaf i Dîm Cyntaf Morganng ar 10 Mehefin 2007. Arwyddodd gytundeb dair blynedd gyda Surrey yn 2011.
Fe'i lladdwyd ger Wimbledon Park, de Llundain, gan drên tanddaearol ar 18 Mehefin 2012.[3]