Tomas Francis | |
---|---|
Ganwyd | 27 Ebrill 1992 Efrog |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | chwaraewr rygbi'r undeb |
Taldra | 185 centimetr |
Pwysau | 129 cilogram |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Exeter Chiefs, London Scottish F.C., Doncaster R.F.C., Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru |
Safle | prop |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Chwaraewr rygbi'r undeb o Loegr sydd wedi chwarae dros Gymru yw Tomas Francis (ganwyd 27 Ebrill 1992). Mae'n chwarae yn safle'r prop pen tynn. Mae'n chwarae i glwb yr Exeter Chiefs ar hyn o bryd.
Mae Francis yn enedigol o Efrog a chafodd ei addysg yn Ysgol Sedbergh a Choleg Ampleforth. Graddiodd Tom o Brifysgol Leeds yn 2013 gyda gradd mewn Peirianneg Fecanyddol.
Arwyddodd Francis ei gytundeb proffesiynol cyntaf gyda Doncaster Knights ym mis Chwefror 2012 pan oedd yn 19 oed. Roedd yn chwarae i glwb amatur Malton a Norton RUFC, ac yno y cyflwynwyd ef i rygbi pan oedd yn 4 oed.[1] Symudodd at Albanwyr Llundain yn 2013 ar ôl i Doncaster gael ei diraddio i National League 1, a chwaraeodd mewn 23 o gemau i'r clwb hwnnw cyn mynd at yr Exeter Chiefs y flwyddyn ganlynol.[2] Daeth i'r cae fel eilydd pan enillodd yr Exeter Chiefs yn erbyn Wasps a chael eu coroni yn bencampwyr Uwch Gynghrair Lloegr 2016-17.[3]
Mae Francis yn gymwys i chwarae dros Gymru drwy ei fam-gu, Eirlys Walters, a aned yn Abercraf.[4] Cafodd ei alw i hyfforddi gyda Chymru am y tro cyntaf ar 9 Mawrth 2015,[5] a chafodd ei ychwanegu i'r garfan cyn gêm olaf Pencampwriaeth y Chwe Gwlad 2015 yn erbyn yr Eidal.[6] Er hynny, bu raid iddo aros tan 29 Awst 2015 cyn ennill ei gap cyntaf, a hynny mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Iwerddon i baratoi ar gyfer Cwpan y Byd.[7]
Bu hefyd ar daith y Llewod i Seland Newydd yn 2017.
Dechreuodd Francis bob un gêm heblaw'r un yn erbyn yr Eidal ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad 2019, gan sicrhau'r Gamp Lawn gyntaf i Gymru ers 2012.
|deadurl=
ignored (help)