Math | ymbelydredd, Ton, digwyddiad golau-amser ![]() |
---|---|
Deunydd | gofod-amser ![]() |
Dyddiad darganfod | 14 Medi 2015 ![]() |
Rhan o | gofod-amser ![]() |
![]() |
Yn ffiseg, tonnau disgyrchol yw crychiadau yng nghrymedd gofod-amser sy'n lledaenu fel tonnau, yn teithio allan o'r ffynhonnell. Cawsant eu darogan yn 1916[1][2] gan Albert Einstein ar sail ei ddamcaniaeth perthnasedd cyffredinol,[3][4] mewn theori mae tonnau disgyrchol yn cludo egni fel "pelydriad disgyrchol". Ar 11 Chwefror 2016 cyhoeddodd y grŵp LIGO, Virgo interferometer a GEO600 eu bod wedi darganfod prawf o fodolaeth tonnau disgyrchol ac enwyd y signal yn "GW150914".[5]
Mae'n bosib y gall ffynonellau o donnau disgyrchol gynnwys systemau sêr dwbl wedi eu gwneud o gorachod gwynion, sêr niwtron, neu dyllau du. Mae bodolaeth tonnau disgyrchol yn ganlyniad posibl i anghyfnewidioldeb Lorentz ym mherthnasedd cyffredinol am ei fod yn cyflwyno'r syniad o gyfyngiad ar gyflymder lledu o gydadweithiau ffisegol. All tonnau disgyrchol ddim bodoli mewn damcaniaeth Newtonaidd o ddisgyrchiant, lle mae cydadweithiau ffisegol yn lledu ar gyflymder anfeidrol.
Cyn darganfod tonnau disgyrchol yn uniongyrchol roedd yna dystiolaeth anuniongyrchol o'u bodolaeth.[6] Er enghraifft, gwobrwywyd Gwobr Ffiseg Nobel 1993 am fesuriadau o system ddeuaidd Hulse–Taylor oedd yn awgrymu fod tonnau disgyrchol yn fwy na chysyniad damcaniaethol. Ar hyn o bryd mae sawl datgelydd tonnau disgyrchol yn cael eu hadeiladu neu yn gweithredu, fel yr Advanced LIGO a gychwynnodd ei arsylwadau ym Medi 2015.[7]
Yn Chwefror 2016, cyhoeddodd y tîm Advanced LIGO eu bod wedi dod o hyd i donnau disgyrchol o wrthdrawiad tyllau du gyda signal a gyrhaeddodd am 10.51 GMT ar 14 Medi 2015[8] o ddau dwll du (30 mas solar) yn asio i'w gilydd tua 1.3 biliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP). Synhwyrwyd y signal gan ddau synhwyrydd LIGO: Livingston a Hanford, gyda gwahaniaeth amser o 7 milieiliad, oherwydd yr ongl rhwng y ddau synhwyrydd. Daeth y ddau signal o Hemisffer y De.[9][10] Cyfranodd gwyddonwyr Ysgol Ffiseg a Seryddiaeth Prifysgol Caerdydd yn sylweddol i'r darganfyddiad wrth ddatblygu algorithmau a modelau cyfrifiadurol o systemau tyllau deuaidd. Roedd y modelau yma yn cael eu defnyddio i ddadansoddi'r data enfawr a oedd yn cael ei gynhyrchu gan arbrawf LIGO.[11]
|work=
(help)