Tony Hall | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 3 Mawrth 1951 ![]() Penbedw ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, newyddiadurwr, person busnes, darlledwr ![]() |
Swydd | Cyfarwyddwr Cyffredinol y BBC, aelod o Dŷ'r Arglwyddi, chair of the Royal Television Society, vice-chair of the Royal Television Society, llywydd corfforaeth ![]() |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | CBE ![]() |
Cyn-newyddiadurwr a gweithredwr darlledu o Sais yw Anthony William Hall, Barwn Hall o Benbedw, CBE (ganwyd 3 Mawrth 1951). Bu'n Gyfarwyddwr Cyffredinol y BBC rhwng Mawrth 2013[1] ac Awst 2020, ac yna yn Gadeirydd Ymddiriedolwyr y National Gallery hyd at 22 Mai 2021.[2]
Roedd yn Gyfarwyddwyr Newyddion y BBC rhwng 1993 a 2001, a Phrif Weithredwr y Tŷ Opera Brenhinol yn Covent Garden, Llundain o 2001 hyd at Mawrth 2013.[3] Fe'i urddwyd yn Arglwydd am Oes a cymerodd ei sedd yn Nhŷ'r Arglwyddi fel aelod croesfeinciol ar 22 Mawrth 2010.[4] Cychwynnodd ei swydd fel Cyfarwyddwyr-Cyffredinol y BBC ar 2 Ebrill 2013,[5] a sefodd lawr ar 31 Awst 2020, wedi ei ddilyn gan Tim Davie.
Yn 2021, cyhoeddwyd ymchwiliad annibynnol i honiadau am sut y gwnaeth Martin Bashir lwyddo, drwy ddulliau twyllodrus, i gael cyfweliad nodedig gyda Diana, Tywysoges Cymru yn 1995. Cynhaliodd Hall adolygiad mewnol i'r honiadau yn 1996 ond cymerodd Bashir wrth ei air ac fe gam-arweiniodd bwrdd y BBC gyda'i ddisgrifiad o sut y sicrhawyd y cyfweliad.[6] Ymddiswyddodd fel cadeirydd y National Gallery ar 22 Mai 2021.[7]