Math | ardal o Lundain |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Llundain Wandsworth |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.428°N 0.165°W |
Cod OS | TQ275715 |
Ardal faestrefol yn Llundain Fwyaf, Lloegr – yn rhannol ym Mwrdeistref Llundain Wandsworth, ac yn rhannol ym Mwrdeistref Llundain Merton – ydy Tooting. Saif tua 5 milltir (8 km) i'r de-dde-orllewin o ganol Llundain.[1]
Mae Tooting wedi bodoli ers cyn y Sacsonaidd. Gallai'r enw olygu pobl Tota, ac yn y cyd-destun hwn gallai Tota wedi bod yn bennaeth un o lwythi'r ardal. Fel arall, gallai'r enw darddu o'r ferf to tout, "i wylio allan", fel 'Twtil' yng Nghaernarfon. Efallai y bu gwylfan yma ar y ffordd i Lundain; felly "pobl y gwylfannau"
Adeiladodd y Rhufeiniaid ffordd a alwyd wedyn yn Stane Street gan y Saeson, o Lundain (Londinium) i Chichester (Noviomagus Regnorum), a phasiodd drwy Tooting. Mae Ffordd Fawr Tooting High Street wedi ei adeiladu ar y ffordd yma. Yn amseroedd y Sacsoniaid, rhoddwyd Tooting a Streatham (yna Toting-cum-Stretham) i Abaty Cherstey (Abbey of Chertsey). Yn ddiweddrarch rhoddwyd holl neu o leiaf rhan o'r tir, i Suene (Sweyn), a goelwyd ei fod yn Lychlynnwr (Viking). Yn 933, credir bod Brenin Athelstan wedi cadarnhau fod y tiroedd gan gynnwys Totinge (Tooting) ym mherchnogaeth Abaty Chertsey.[2]
Ymddangosa Tooting yn Llyfr Dydd y Farn (1086) fel Toting: cedwid Lower Tooting o Chertsey Abbey gan Haimo y Siryf o Gaint pan oedd ei asedau yn 1 eglwys, 2 1⁄2 yn dir coch (tir aredig) a 5 acer (2 hectar) o ddôl. Galwyd y bobl yno i dalu pedair punt i'r penarglwyddi (overlords). Yn ddiweddarach yng nhyfnod y Normaniaid death i feddiant teulu'r De Gravenel, ac ar eu hôl hwyn fe'i ail-ennwyd yn Tooting Graveness. Tan newidiadau bychan yn y 19fed ganrif roedd yn cynnwys 2 km2 (0.77 mi sgw).[3]
Am ganrifoedd gweinyddwyd Upper Tooting, neu Tooting Bec fel rhan o Streatham; roedd yma faenor a gadwyd gan Abaty Hellouin Bec, yn Normandi, ac ychwanegwyd y gair "Bec" i'r enw. Ei asedau, yn ôl Dydd y Farn oedd 5 croen lledr. Roedd yno bump a hanner tir âr (tir coch).[4]
Fel llawer o faestrefi de Llundain, datblygodd Tooting yn hwyr yn ystod Oes Fictoriana.[5] Digwyddodd rhan o'r datblygiad yn yr oes Edwardaidd a chafwyd datblygiad sylweddol arall yn ystod y 1920au â'r 1930au.
Aelod Seneddol tros Tooting yw Dr. Rosena Allin-Khan (Y Blaid Lafur (DU)) ac fe'i hetholwyd yn gyntaf yn 2016 mewn is-etholiad i gynrychioli (etholaeth seneddol Tooting) [10] yn dilyn etholiad ei rhaglynnydd Sadiq Khan yn Faer ym Mai 2016.
Ers sefydlu etholaeth seneddol Tooting mae'r sedd wedi'i ddal gan y Blaid Lafur.
Mae Tooting wedi ei sefydlu ar y Northern line— gyda gorsafoedd ar ben a gwaelod y bryn sydd yn gwyro i lawr y Stryd Fawr, Tooting Bec a Tooting Broadway. Gwasanaethir Tooting gan reilffordd genedlaethol yn yr orsaf reilffordd sy'n darparu gwasanaeth uniongyrchol i Sutton drwy Wimbledon, ac i'r gogledd tuag at Farringdon, St Pancras ac ymlaen i Luton.
Mae yno nifer o gysylltiadau bws, gyda theithiau i ac o ganol Llundain, Croydon, Sutton a Kingston ymhlith eraill.[11]
Yn 2015 roedd gorsaf tanddaearol Tooting Broadway yn cael ei gysidro gan TfL fel gorsaf yn y dyfodol ar gyfer datblygiad Crossrail 2. Fel ychwanegiad ar y Northern Line, byddai hyn yn darparu Tooting gyda chysylltiad cyflym ac uniongyrchol i brif orsafoedd Llundain: e.e. Cyffordd Clapham Junction, Victoria, Tottenham Court Road ac Euston.[12]
Penodwyd stâd Totterdown Fields yn ardal gadwriaeth, ar yr 19fed o Fedi 1978. Hon oedd y 'stâd fythynod' gyntaf a adeiladwyd gan Gyngor Sir Llundain/London County Council rhwng 1901 a 1911 yn cynnwys 1244 o dai unigol a adeiladwyd tros 38 acer (15 hecter).Roedd mudiadau Gardd-Ddinas Ebenezer Howard ac Arts and Crafts yn ddylanwadol ar ddylunio'r stâd.[13]
Yn gorwedd ar begwn gogleddol Tooting mae ardal fawr, agored, a elwir yn boblogaidd fel Comin Tooting/ Tooting Commons. Yn hanesyddol, arferai'r ardal hon fod yn ddwy ardal ar wahanː Tooting Graveney Common (arferai fod ym mhlwyf Tooting Graveney), a Tooting Bec Common (arferai fod ym mhlwyf Streatham). Yma ceir Tooting Bec Lido, sydd yn 90 medr o hyd a 30 medr o led.
Mae Tooting yn rhannu day glwb pêl-droed gyda thref gyfagos Mitcham: Tooting & Mitcham United F.C. a Tooting & Mitcham Wanderers FC.
Mae stadiwm rasio milgwn 'Wimbledon Stadium', ar Plough Lane ar y ffin rhwng Tooting a Wimbledon. Mae gan AFC Wimbledon gynlluniau ar y gweill i adeiladu eu stadium newydd yno.
Mae gan Tooting ddwy farchnad dan-dô, gyda nifer o stondinau parhaol. Mae mynediad i'r ddwy farchnad ar yr un stryd, Tooting High Street, gyda prin medrau rhyngthynt. Mae gan y ddwy lawer math o stondinau, and mae un, Tooting Market, yn Asiaidd yn bennaf. Mae'r farchnad fwyaf, The Broadway Market, yn un o'r marchnadoedd dan-dô fwyaf yn Llundain gyda mwy na 90 stôl, ac yn gweithredu ers 1936.[14] Mae'r marchnadoedd yn tueddu i for yn fywiog iawn ar ddyddiau Sadwrn, ac yn agored tros y penwythnos heblaw ar wyliau cyhoeddus..
Cyfeirir ffilm o'r Ealing Studios Kind Hearts and Coronets (1949), gyda Alec Guinness, at Tooting Bec fel man lle roedd un o'r cymeiriadau'n byw. Roedd cyfres gomedi'r BBC Hugh & I (1962–67) yn seiliedig ar avenue ffuglennol Lobelia Avenue in Tooting.[16]
Roedd cyfres gomedi'r BBC Citizen Smith (1977–80) yn seiliedig ar Tooting gyda'r cri a boblogeiddwyd "Freedom for Tooting!"Prif gymeriad y gyfres oedd Wolfie Smith (Robert Lindsay), sef sylfaenydd sefydliad chwyldroadol sosialaidd ffuglennol y Tooting Popular Front.[17]
Recordiodd Kitchens of Distinction (a ffurfiwyd yn yr ardal) "On Tooting Broadway Station" ar eu halbwm The Death of Cool (1992).
Yn 2005, enwyd ceudwll 28 km o ddiamedr ar y blaned Mawrth ar ôl Tooting.[18] Mae map daeraegol o Ceudwll Tooting yn cael ei baratoi, a gaiff ei gyhoeddi yn yr U.S. Geological Survey yn yr Unol Daleithiau.
Daeth cantores a chyfansoddwraig Albannaidd Sandi Thom i amlygrwydd yn dilyn ei 21 pherfformiad via'r wê o'i fflat islawr yn Tooting rhwng Chwefror a Mawrth 2006. Cyrrhaeddodd ei chan "I Wish I Was A Punk Rocker (With Flowers In My Hair)" rif 1 yn siartiau'r DU ar 2il Mehefin 2006.
Ymddangosir Tooting Bec yn y llyfr The Meaning of Liff, a ddiffinnwyd fel sefyllfa lle mae gyrrwr yn canu corn ei gar neu ei char at y car o'i f/blaen, dim ond i ddarganfod fod y car o'i f/blaen wedi ei barcio.
Mae'r ymadrodd "Ting Tong from Tooting" yn gystylliedig â chymeriad Ting Tong o sioe brasluniau comedi o'r DU Little Britain.
Tooting oedd gosodiad i'r drama Brydeinig-Tamil 2013 o'r un enw Gangs of Tooting Broadway.[19]
Yn y ffilm Johnny English Reborn, mae Agent Tucker yn byw yn Tooting.
Gwnaed gyfres ddogfen lewyrchus Channel 4 24 Hours in A&E yn Ysbyty San Siôr/St George's Hospital yn Tooting.[20]