Math | foot fracture |
---|---|
Enw brodorol | Jones fracture |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Torasgwrn Jones yw toriad rhwng sylfaen a chanol y pumed metatarsol yn y droed.[1] Arweinir at ymdeimlad o boen tua chanol y droed, ar y tu allan. Gall y cyflwr achosi cleisio ac anhawster wrth gerdded. Yn gyffredinol y mae'r boen yn datblygu'n sydyn.[2]
Achosir toriad o'r fath gan gyfuniad o fysedd traed pwyntiedig a phlygiad troed i mewn.[3] Gall y symudiad hwn ddigwydd wrth i rywun newid cyfeiriad tra bod ei sawdl ar y ddaear, mae'n gyffredin felly ymysg dawnswyr, chwaraewyr tenis neu bêl-fasged.[4][5] Gwneir diagnosis fel arfer ar sail symptomau a chaiff ei gadarnhau gan belydr-x.
Fel rheol, cynigir triniaeth gychwynnol mewn cast ac argymhellir peidio â phwyso ar y droed am o leiaf chwe wythnos.[6] Os na welir gwellhad wedi'r cyfnod hwn, weithiau rhoddir cast arall am gyfnod o chwe wythnos. Ni cheir cyflenwad llewyrchus o waed yn yr ardal hon, ac o ganlyniad, nid yw'n hawdd gwella'r cyflwr yn llwyr a rhaid cynnig llawdriniaeth ar brydiau.[7] Disgrifiwyd y torasgwrn am y tro cyntaf ym 1902 gan y llawfeddyg orthopedig Robert Jones a ddatblygodd yr anaf ei hun wrth ddawnsio.[8][2]
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)
|deadurl=
ignored (help)