Tori James (ganwyd 1981) oedd y fenyw gyntaf o Gymru i ddringo Mynydd Everest, yn 25 oed.[1] Hefyd hi oedd y fenyw ieuengaf o Brydain erioed i gwblhau'r esgyniad.[2]
Mae Tori James yn awdur, siaradwr gwadd ac ymgynghorydd[3]. Mae hi'n cyflwyno hyfforddiant arweinyddiaeth a phrosiectau datblygu tîm ac ieuenctid. Mae hi'n byw yng Nghaerdydd. Ym mis Mehefin 2014 roedd James yn rhan o dîm Beeline Britain a ddaeth y cyntaf i deithio mewn llinell syth o Land’s End i John O’Groats er budd yr elusen BLESMA.[4][5] Mae James yn cynnal hyfforddiant ysgogol ar gyfer sefydliadau corfforaethol ac elusennol mewn sectorau gan gynnwys hedfan, entrepreneuriaeth a chwaraeon. Mae hi’n llysgennad ar gyfer Gwobr Dug Caeredin yng Nghymru a Girl Guiding UK.[6]