![]() | |
Math | Tyrau Genoa yng Nghorsica ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ogliastro ![]() |
Gwlad | ![]() ![]() |
Cyfesurynnau | 42.8081°N 9.33389°E ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | heneb hanesyddol cofrestredig ![]() |
Manylion | |
Mae Tŵr Albu (Corseg: Torra d'Albu) yn dŵr Genoa adfeiliedig sydd wedi ei leoli yn commune Ogliastro (Haute-Corse) ar orllewin arfordir y Cap Corse ar ynys Corsica.
Mae'r tŵr yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a tua 1620 i atal ymosodiadau gan y môr-ladron Barbari. Cafodd y tŵr ei ddifrodi ym 1588 pan ymosododd Hassan Veneziano ar bentref cyfagos, Ogliastro, a chipio nifer o'r pentrefwyr.[1] Mae rhestr o'r tyrau amddiffynnol arfordir Corsica a luniwyd gan awdurdodau Genoa ym 1617 yn cofnodi bod y tŵr yn cael ei warchod gan ddynion o bentrefi Ogliastro a Olcani, ond dim ond yn ystod y nos.[2]
Ym 1992 cafodd y tŵr ei restru fel un o henebion hanesyddol Ffrainc.[3]
Mae gan y tŵr nifer o enwau eraill: Torra di Ogliastro, Torra dOlcini a Torre del Greco