![]() | |
Math | Tyrau Genoa yng Nghorsica ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() ![]() |
Cyfesurynnau | 42.93°N 9.47°E ![]() |
![]() | |
Mae Tŵr Meria (Corseg:Torra di Meria) yn dŵr Genoa adfeiliedig yng Nghorsica wedi ei leoli yn commune Meria ar arfordir dwyreiniol ynys Cap Corse. Mae wedi'i lleoli ar lwyfandir creigiog sy'n edrych dros y môr i'r gogledd o'r marina sy'n dwyn yr un enw a hi.[1]
Roedd yn un o gyfres o amddiffynfeydd arfordirol a adeiladwyd gan Weriniaeth Genoa rhwng 1530 a thua 1620 i atal ymosodiadau gan fôr-ladron Barbari.[2]
Mae gan dŵr Meria bensaernïaeth nodweddiadol o dyrau Cap Corse gydag uchder o tua 13 medr. Mae iddi 2 lefel ynghyd â theras, drws i'r llawr a grisiau allanol. Mae rhywfaint o waith adfer wedi gwneud ar y tŵr er hynny dim ond gweddol yw ei chyflwr. Mae'n weddol hawdd ymweld â'r tŵr trwy ddilyn llwybr bach tua 30 kilometr o hyd o'r ffordd fawr.[1]