Car trydan cell danwydd a lansiwyd yn niwedd 2014 yw Toyota Mirai ("y dyfodol" yn Japanieg).[1][2] Dadorchuddiwyd y Mirai yn Nhachwedd 2014 yn sioe geir Los Angeles Auto Show. Bydd 700 o'r ceir hyn yn cael eu gwerthu gan Toyota yn 2015.[3]
Dechreuwyd gwerthu'r ceir Mirai yn Rhagfyr 2014 am ¥ 6.7 miliwn (£37,000) gyda Llywodraeth Japan yn cyfrannu ¥2 miliwn (~US$19,600) er mwyn cadw'r pris yn isel.[4] Bydd y farchnad yn cyrraedd Califfornia yng nghanol 2015, a chredir y bydd Llywodraeth y wlad hefyd yn rhoi nawdd ariannol i leihau'r gost i'r cwsmer.[3][5] Ym Medi 2015 rhagwelir y bydd y cwmni'n targedu Ewrop, gan gychwyn gyda gwledydd Prydain, yr Almaen a Denmarc a gwledydd eraill Ewrop yn 2017.[6] Yn yr Almaen bydd y math rhataf o'r car yn €60,000 a TAW.[6]
Defnyddia'r Mirai 'System Cell Danwydd Toyota' (neu'r TFCS), sy'n cynnwys y gell danwydd ei hun a thechnoleg heibrid. Mae'r TFCS yn fwy effeithiol na'r Peiriant tanio mewnol traddodiadol, ac nid yw'n allyrru CO2. Mae ei bwer yn ddigon cryf iddo symud o 0 i 60 milltir yr awr mewn 9 eiliad. Cymerir rhwng 3 a 5 munud i'w lenwi gyda thanwydd a gall deithio am hyd at 300 milltir ar un llond tanc. Ceir botwm gyda ' H2O' arno, sy'n agor llifddor bychan yng nghefn y car, sy'n caniatau i ddŵr gwastraff gael ei arllwys allan o'r car. Crëir y dŵr gwastraff hwn yn yr adweithydd hydrogen-ocsigen oddi fewn i'r gell danwydd.[7] O ran cyfaint, caiff 240ml o ddŵr ei greu pob rhyw ddwy filltir (4 km).[8]
Mae'r stac o gelloedd tanwydd yn medru creu uchafswm o 114 kW (153 hp). Mae'r effeithiolrwydd (o greu trydan) wedi gwella'n arw drwy ddefnyddio rhwydi mân 3D fel sianeli ar gyfer y llif. Yn ôl Toyota, dyma'r rhwydi cyntaf o'u bath, ac mae nhw'n cynorthwyo i wasgaru aer (yr ocsigen), sy'n caniatáu i drydan gael ei greu mewn dull cyfartal ar wyneb y celloedd. Mae'r perfformiad felly'n llawer uwch nac unrhyw gar arall - 2.2 gwaith gwell na rhagflaenydd y Mirai, sef y Toyota FCHV-adv. Mae gan bob stac 370 cell, a thrwch o 1.34 mm a phwysau o 102 gram. Maent 160 gwaith yn well nag unrhyw gell danwydd sydd ar werth yn Japan (yn 2014).[9] Gall trosglwyddydd trydan newydd y car (sy'n 13 litr) godi pwer trydanol y car i 650 folt.[9]
Mae gan y Mirai ddau danc hydrogen, sydd wedi'iu creu a'u hatgyfnerthu drwy ddefnyddio tair haen cryf o blastig (nylon 6) gyda charbon ffeibr yn eu cryfhau,[10] a defnyddiau eraill. Fel yr awgryma'r enw, hydrogen sy'n cael eu storio yn y tanciau hyn, hydrogen sydd dan wasgedd o 70 MPa (10,000 psi) ac mae pwysau'r ddau danc gyda'i gilydd yn 87.5 kg (193 pwys).[9][11]