Toyota Prius | |
---|---|
Trosolwg | |
Gwneuthurwr | Toyota |
Cynhyrchu | 1997–presennol |
Corff a siasi | |
Dosbarth | Car bychan (1997–2003) Car canolig ei faint (2003–presennol) |
Math o gorff | Sedan 4-drws (1997–2003) 5-drws hatchback (2003–presennol) |
Trefn | Modur blaen, gyriant blaen |
Maint | |
Hyd | 4.540 |
Lled | 1.760 |
Uchder | 1.470 |
Mae'r Toyota Prius (lluosog: Prii[1]) yn gar trydan heibrid maint hatchback a ddatblygwyd ac a gynhyrchwyd gan gwmni Toyota. Mae model 2016 (y Prius Eco) yn cael ei ystyried gan Asiantaeth Gwarchod yr Amgylchedd, UDA fel y cerbyd petroliwm mwyaf effeithiol a gaiff ei werthu.[2] Erbyn diwedd 2016 bydd yr ail genhedlaeth wedi eu lansio - y Prius Prime'.
Pan ddaeth allan yn gyntaf yn 1997 roedd ei effeithiolrwydd yn gyfystyr i wneud 42 myg ac erbyn 2016 roedd hyn wedi mwy na dyblu i 95 mpg-e.[3] Erbyn 2016 roedd yn medru gwneud 0-60 mewn 10.6 eiliad a gallai deithio ar raddfa o 94 myg (cyfystyr), ac roedd ganddo bhp o 121 a chyflymder uchaf o112 milltir yr awr. Yn Rhifyn Haf 2016 o gylchgrawn gwerthuso ceir Top Gear, derbyniodd y Toyota Prius 7 marc allan o 10.[4] Fe'i beirniadwyd am ddiffyg mwynhad o'i yrru, ond canmolwyd fod y raddfa milltir y galwyn yn eitha uchel. Roedd y fersiwn 'Active' yn gwerthu am £23,295 yng ngwledydd Prydain a'r fersiwn Excel yn gwerthu am £27,450.
Ym 1997 y gwerthwyd ef yn gyntaf, a hynny yn Japan, a'r Prius oedd y cerbyd heibrid cyntaf i gael ei fasgynhyrchu ac yn 2000 ehangwyd y gwerthiant i'r byd mawr crwn.[5] Ym Mai 2008, cyrhaeddwyd carreg filltir bwysig pan werthwyd miliwn (1,000,000) o'r ceir[6], dwy filiwn erbyn Medi 2010,[7] a thair milwin erbyn Mehefin 2013.[8] Erbyn diwedd 2012 roedd yn cael ei werthu mewn 80 o wledydd: Japan ac UDA yn bennaf.[7]
Ledled y byd, erbyn Mai 2008 roedd miliwn o'r ceir 'Toyota Prius c' wedi'u gwerthu ar gyfer y farchnad ddomestig (hy nid busnes), 2 filiwn ym Medi 2010 ac roedd 3 miliwn wedi'u gwerthu erbyn Mehefin 2013.[9]
Yn 2011, ehangwyd y teulu i gynnwys Prius V (pump), hatchback hir a hatchback cynnil. Lansiwyd fersiwn plyg-in yn 2012.
Pan lansiwyd yr ail genhedloedd dadlenodd Asiantaeth Gwarchod yr Amgylchedd, UDA mai dyma'r car heibrid mwyaf effeithiol o ran milltiroedd/tanwydd. Yn Rhagfyr 2010 cipiodd y Chevrolet Volt y safle honno (60 milltir y galwyn) ond erbyn 2013 roedd y Prius c wedi adennill y safle.
Yn ôl Toyota, ystyr y gair Lladin prius ydy 'mynd o flaen' (rhywbeth neu rywun) a dewisiwyd y gair gan i'r cerbyd gael ei ryddhau cyn bod pobl yn ymwybodol o broblemau amgylcheddol.[10]
Gofynnodd y cwmni i'r cyhoedd am enw lluosog, yn Chwefror 2011, ac ymhlith y ffefrynnau roedd: Prien, Prii, Prium, Prius, a Priuses.[11][12] Dywedodd y cwmni y byddai'n defnyddio'r enw mwyaf poblogaidd yn ei hysbysebion ac ar 20 Chwefror datgelodd mai "Prii" o.[1] In Latin prius is the neuter sinedd y dewis mwyaf poblogaidd.
|newspaper=
(help)
|publisher=
(help)
|publisher=
(help)
|publisher=
(help)