Trahaearn ap Caradog | |
---|---|
Ganwyd | 1030 |
Bu farw | 1081 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | teyrn |
Tad | Caradog ap Gwyn ap Gollwyn ab Endywain o Arwydystli |
Mam | Nn ferch Gwerystan ap Gwaithfoed ap Gloddieu |
Priod | Nest ferch Gruffudd |
Plant | Llywarch ap Trahaearn, Owain ap Trahaearn ap Caradog |
Roedd Trahaearn ap Caradog (bu farw 1081) yn dywysog Gwynedd o 1075 hyd 1081. Arglwydd Arwystli, ar y ffin rhwng Gwynedd a Powys, oedd Trahaearn a'r cantref hwnnw oedd ei gadarnle. Ymledodd ei awdurdod yn raddol dros rannau mawr o ogledd Cymru ac roedd ganddo uchelgeisiau yn y de yn ogystal.
Ar farwolaeth Bleddyn ap Cynfyn yn 1075, mae'n ymddangos nad oedd yr un o'i feibion yn ddigon hen i hawlio'r deyrnas, a chipiodd cefnder Bleddyn, Trahaearn ap Caradog, y goron. Yr un flwyddyn glaniodd Gruffudd ap Cynan ar Ynys Môn gyda byddin o Iwerddon, a chyda chymorth y barwn Normanaidd Robert o Ruddlan gorchfygodd Drahaearn ac enillodd feddiant ar Wynedd. Fodd bynnag bu trafferthion rhwng milwyr Gwyddelig Gruffudd a'r Cymry lleol yn Llŷn, a rhoddodd hyn gyfle i Drahaearn wrth-ymosod, gan orchfygu Gruffudd ym mrwydr Bron yr Erw yn yr un flwyddyn a'i orfodi i ffoi i Iwerddon.
Teyrnasodd Trahaearn ar Wynedd tan 1081, pan ddychwelodd Gruffudd ap Cynan a gwneud cynghrair gyda Rhys ap Tewdwr tywysog Deheubarth, oedd yn ddiweddar wedi ei yrru allan o'i deyrnas gan Caradog ap Gruffudd o Forgannwg. Gwnaeth Trahaearn gynghrair â Charadog ap Gruffydd, ond ym Mrwydr Mynydd Carn, i'r gogledd o Dyddewi, yr un flwyddyn lladdwyd Trahaearn a Charadog. Yn ôl Hanes Gruffudd ap Cynan, trawyd Trahaearn yn ei fol a syrthiodd i'r llawr, 'a Gwcharci Wyddel a wnaeth facwn ohonaw fal o hwch'. Enillodd Gruffudd ap Cynan orsedd Gwynedd unwaith yn rhagor a dychwelodd Rhys ap Tewdwr i'w safle fel tywysog Deheubarth.
Priododd Gwladus, ferch Llywarch ap Trahaearn, Owain Gwynedd.
O'i flaen : Bleddyn ap Cynfyn |
Brenhinoedd Gwynedd | Olynydd : Gruffydd ap Cynan |