Math | dosbarth, cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 12,127 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Dinas a Sir Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.467°N 3.166°W |
Cod SYG | W04000838 |
AS/au y DU | Stephen Doughty (Llafur) |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Ardal, cymuned a ward etholiadol ym mhrifddinas Cymru, Caerdydd, yw Tre-biwt, weithiau Tre Bute (Saesneg: Butetown). Mae'r sillafiad Cymraeg, ffonetig 'Biwt' yn mynd yn ôl i'r 19g.[1][2]
Tre-biwt yw ardal dociau Caerdydd, ac mae'n cynnwys Tiger Bay, fu'n destun y ffilm o'r un enw. Yn ne'r gymuned mae Bae Caerdydd. Erbyn hyn ceir llyn dŵr croyw mawr yma, a grewyd trwy godi morglawdd. Ceir Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Chanolfan Mileniwm Cymru yn yr ardal yma.
Mae'n cynnwys cymunedau adnabyddus megis Sgwâr Loudoun a arferir bod yn ardal gyfoethog ond sydd wedi dioddef tlodi yn ystod yr 20g. Mae bellach wedi derbyn buddsoddiad gan gynnwys yn 2023 dechrau ar gwaith adeiladu Gorsaf reilffordd Tre-biwt.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]