Trebonianus Gallus | |
---|---|
Ganwyd | 206 Perugia |
Bu farw | Awst 253 Terni |
Dinasyddiaeth | Rhufain hynafol |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | ymerawdwr Rhufain, seneddwr Rhufeinig |
Priod | Afinia Gemina Baebiana |
Plant | Volusian, Vibia Galla |
Gaius Vibius Trebonianus Gallus (c. 206 – 253) oedd ymerawdwr Rhufain rhwng 251 a 253.
Ganed ef yn Yr Eidal tua'r flwyddyn 206, yn aelod o deulu amlwg oedd yn cynnwys aelodau o'r Senedd. Priododd Afinia Gemina Baebiana, a bu ganddynt ddau blentyn, Gaius Vibius Volusianus, a ddaeth yn ymerawdwr ei hun, a'i chwaer Vibia Gala. Dilynodd yrfa arferol uchelwr yn Rhufain, gan ddod yn gonswl ac yna yn 250 yn rhaglaw talaith Moesia. Yn Moesia bu'n brysur yn amddiffyn y ffin yn erbyn y Gothiaid, gan ddod yn boblogaidd iawn gyda'r fyddin.
Ar 1 Gorffennaf 251 lladdwyd yr ymerawdwr Decius a'i fab Herrenius Estruscus ym mrwydr Abrito. Pan glywsant y newyddion, cyhoeddodd y llengoedd Trebonianus Gallus yn ymerawdwr. Roedd y Senedd yn Rhufain wedi cyhoeddi mab arall Decius, Hostilian, yn ymerawdwr. I osgoi rhyfel cartref, mabwysiadodd Gallus Hostilian fel mab a daethant yn gyd-ymerodron. Llwyddodd Gallus i ddod i gytundeb a'r Gothiaid a chychwynnodd tua Rhufain. Yn fuan wedyn bu farw Hostilian o'r pla du, ac enwodd Gallus ei fab ei hun, Volusianus, yn gyd-ymerawdwr yn ei le.
Bu trafferthion pellach ar ffiniau'r ymerodraeth. Concrodd Sapor I, brenin Persia, dalaith Syria, ac yn ardal Afon Donaw ymosododd y Gothiaid unwaith eto. Roedd y fyddin yn anhapus ar y sefyllfa, a phan lwyddodd Aemilianus, rhaglaw Moesia a Pannonia i orchfygu'r Gothiaid, cyhoeddasant ef yn ymerawdwr.
Ceisiodd Gallus gasglu llengoedd o Afon Rhein i wrthwynebu Aemilianus, ond cyn i fyddin Aemilianus gyrraedd yr Eidal yr oedd Gallus a'i fab Volusianus wedi eu llofruddio gan eu milwyr eu hunain yn Awst 253.
Rhagflaenydd: Hostilian |
Ymerawdwr Rhufain 251 – 253 |
Olynydd: Aemilianus |